Y canlynol yw'r achosion fynychaf: afiechyd (fel dolur y galon, is thyroidedd, ac anallu i symud); methiant y corff i adnabod gostyngiad gwres yn ddigon cyflym, fel na all y person grynu a chymryd mesurau i ymdwymo; cyffuriau (fel Largactil a'r ddiod feddwol i ormodedd); a'r achos pwysicaf oll, sef cwymp y tymheredd i radd rhy isel i'r corff fedru ymdaro ag ef.
Rhaid ceisio gweld yr Adroddiadau fel esiamplau o anallu llwyr Dirprwywyr o gefndir cymdeithasol, crefyddol, cenedlaethol a dosbarth rhai tebyg i Lingen i ddeall sut y gallai unrhyw un feddwl am gefnogi'r fath fudiadau.
Y mae'r angen am gymod rhwng Duw a dyn yn codi o gyflwr pechadurus dyn, a'i anallu hollol ddiymadferth i fedru gwneud dim o'i ran ei hun.
Ond o fy mhrofiad anffodus i o feddygon ac ysbytai does a wnelo lliw eu croen fawr ddim ag anallu rhai meddygon i gyfathrebu a defnyddio gair yr adroddiadau diweddar.
Tadogodd un o'r milwyr y difaterwch ynglŷn â phethau crefyddol ar anallu pregethwyr a chaplaniaid i egluro'r gwirioneddau Cristionogol mewn iaith ddealladwy.
Priodolai Burgess hyn yn rhannol i Seisnigrwydd yr Eglwys Wladol ac anallu ei chlerigwyr i bregethu yn Gymraeg, a gwnaeth ei orau i osod clerigwyr Cymraeg eu hiaith mewn plwyfi Cymraeg.
Os, drwy'r cyfryw salwch neu anallu, nad yw'r Artist yn gallu cwblhau ei waith gall y Cynhyrchydd derfynu Cytundeb Gwaith yr Artist drwy dalu i'r Artist yr holl daliadau sy'n ddyledus hyd at ddyddiad y salwch neu anallu.
Y mae bod yn etifedd dau ddiwylliant yn gallu creu anawsterau digon blin yn aml ac nid y lleiaf ohonynt yw anallu'r sawl na wyr iaith ond Saesneg i sylweddoli nad yw medru Saesneg a bod yn hyddysg yn hanes a llenyddiaeth Lloegr o angenrheidrwydd yn gwneud pobl yn Saeson.
O safbwynt gelynion y canu caeth, yr oedd yr awdl hon yn brawf arall o amharodrwydd ac anallu'r beirdd caeth i wynebu bywyd fel ag yr oedd ac i symud ymlaen gyda'r oes.
Ceir anallu greddfol o'r bron i ddyrchafu.
I ddangos anallu'r eglwys i ddiwallu anghenion ysbrydol y bobl fe godwyd capeli heb fod ymhell, ac y mae cofnodion y rheiny, er yn brin, yn profi mor rymus fu'r profiadau.