Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anarferol

anarferol

Er y byddai'n bosibl, wedi i broject tair blynedd ddod i ben yn llwyddiannus, i'r Swyddfa Gymreig gytuno i ariannu project newydd yn yr un maes i'w gyflawni o fewn cyfnod penodol pellach, nid ystyrir fod profiad o gyflawni project blaenorol yn fwy manteisiol na phrofiad diweddar yn y dosbarth ac anarferol fyddai penodi swyddog project am ddau gyfnod yn olynol.

Roedd yn beth anarferol i ferch fod yn annibynnol (er bod y Rhyfel Mawr wedi rhoi mwy o gyfle iddynt), a'r duedd yng ngwaith Kate Roberts yw dangos merched yn dilyn y drefn gonfensiynol - mynd i weini a phriodi.

Diflannodd y canwr flynyddoedd yn ôl ac ar ei thaith i ddysgu ei hanes mae Leni yn cyfarfod â nifer o gymeriadau digon anarferol.

Dim niwed anarferol.

Yn ôl Rhodri Morgan mi roedd hyn yn anarferol ac yn anffodus" ac nad oedd yn gwneud y gwaith o ddelio â"u cais yn ddim haws.

Braidd yn anarferol ar achlysuron fel hyn, trefnwyd oedfa fore ar y dydd Mercher gyda D. J. Roberts (Aberteifi ar ôl hynny) yn cymryd y rhannau arweiniol ac Irfon Gwyn Jones, brawd y darpar-weinidog, yn traddodi'r Siars i'r Eglwys.

Roedd un o'r strabs yn ein plith yn meddu ar feddwl chwim a synnwyr digrifwch braidd yn anarferol.

Mae tua 16 o ganeuon ar y gweill - a falle fydd hi'n syndod i gael clywed ambell diwn indie a hyd yn oed unawd clasurol ar y gitar yng nghanol y perlau ska-reggae-rock bywiog ac anarferol sydd gan y grwp.

Rhannodd y Kloteniaid eu cawl a'u tegell a mi a'm rhybuddio fod cymaint trwch anarferol o eira newydd ansefydlog ar grib uchaf Piz Lischana nes bod y ddau dad wedi gorfod troi yn eu holau y bore hwnnw cyn cyrraedd y copa: yn sicr nid oedd y mynydd mewn cyflwr priodol i alleinganger.

Ond parodd cyhoeddi dau ohonynt gynnwrf anarferol.

er bod ei farn am gymeriad Penri yn anarferol o dirion - ar wahân i'r gred ryfedd fod gwaed Cymry'n boethach na gwaed Saeson!

Gwahanol, am ei bod yn canolbwyntio ar rai pethau od, rhyfedd ac anarferol y mae pobl y wlad honno'n eu gwneud.

Roedd siâp anarferol iddo, yn denau a chul fel bys ychwanegol, heb unrhyw dro yn y cymal cyntaf.

Enwau go anarferol yr adeg honno.

Rhaid oedd eu pedoli, felly, yn y gaeaf a'r gwanwyn; cedwid y gofaint yn brysur anarferol yn gwneud hyn.

Fe fydd yr oerni anarferol yn amlwg yn y mannau hynny.

Hynny yw, mae'r meddwl fel petai'n cael ei godi i ryw angerdd creadigol anarferol, a gall hyn gael ei adlewyrchu yn yr hyn y mae'r meddwl yn ymwybod ag ef neu yn y graddau y mae'n ymwybod ag ef yn goystal ag yn y ffordd y mae'n mynegi'r ymwybod hwnnw.

Yn anarferol iawn nid oedd ganddi deulu agos ond cafodd ofal gan gylch bach o gyfeillion.

Ar ôl dau ddiwrnod anodd o deithio daeth at riw greigiog, anarferol ei siâp.

Cofiwn yr ymdrech gynnar yn erbyn gwynt anarferol o finiog, y gollyngdod nad oedd eira anamserol llif Awst wedi lluwchio cymaint a hynny tua chopa'r bwlch, a'r wefr wrth weld y gwyngalch newydd pur yn diflannu i'r cymylau fel petai crib ddwyreiniol y Chuealphorn yn un o gyrsiau mawr yr Aplau.

Digwyddiad anarferol iawn - Manchester United yn colli yn Old Trafford.

(b) Awdurdodwyd y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd yr Is- bwyllgor Staff, i weithredu mewn achosion eraill anarferol lle mae hawl i'r Awdurdod weithredu'i ddisgresiwn a bod adroddiad i'w gyflwyno ymhob achos i'r Is- bwyllgor er gwybodaeth.

Daeth Miss Lloyd i agor y drws a rhyw gochni tywyll anarferol yn llenwi ei hwyneb ac yn lledu i lawr ei gwddf.