Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anawsterau

anawsterau

amcanion y gweithgarwch, a nodi at blant o ba oedran a gallu y cyfeirir ef nodiadau ar y drefn a ddefnyddiwyd a sylwadau ar anawsterau tebygol wrth ymdrin â'r plant a'u deallusrwydd trefniant a dosbarthiad y cyfarpar sampl o ganlyniadau a gafwyd wedi eu trin yn fathemategol briodol cyflwyniad o luniau, graffiau, sylwadau, etc.

Beth, fellym oedd yr anawsterau ar y ffordd?

Er ei bod yn aml yn ddychrynllyd o brin ei hadnoddau ac yn gorfod wynebu anawsterau enfawr, llwyddodd i adael ei hôl yn drwm ar fywyd Cymru.

Mae'r Ddeddf yn diffinio anghenion addysgol arbennig fel anawsterau ac anableddau dysgu sy'n llawer mwy na'r rhai a brofir gan y mwyafrif o ddisgyblion o'r un oedran.

Mae'r emynau'n cwmpasu holl gyfoeth y bywyd Cristionogol yn ei bryder a'i orfoledd, yn ei ofnau a'i sicrwydd, ei anawsterau a'i lwyddiannau, yr union bwnc y canodd mor dreiddgar amdano yn Theomemphus.

'Roedd y Prifeirdd Geraint Bowen a Dic Jones wedi gallu creu portread rhamantaidd, delfrydol ac oesol-gadarn o'r amaethwr a'i fyd, ond erbyn hyn rhaid oedd gofyn y cwestiwn: 'Tra bo dynoliaeth a fydd amaethu'? Mae Ceri Wyn Jones yn ymdrin â'r gofidiau a'r anawsterau a oedd yn llethu ffermwyr ar ddiwedd y ganrif, baich a oedd yn drech na llawer ohonynt.

Nid oedd anawsterau yn mynd i gael sefyll yn ei ffordd.

Breuddwyd Hedd Wyn oedd ennill y Gadair ond bu raid iddo frwydro yn erbyn nifer o anawsterau.

Cofiaf am un wers pan oedd Anti yn dweud wrth ei dosbarth am weddio mewn anawsterau, neu er mwyn cael help i ddysgu eu gwersi yn iawn.

Mae'r amrediad o anghenion addysgol arbennig yn eang iawn, ac yn amrywio o anawsterau dysgu cymharol fychan i anableddau dwys a lluosog.

Hynny a eglurai i raddau pell boblogrwydd y Tuduriaid er cymaint fu anawsterau economaidd y cyfnod.

Rhaid sylweddoli, hefyd, bod anawsterau mawr yn codi mewn rhai achosion wrth geisio penderfynu faint o argost y dylai unedau'i gario.

Mi wn yr anawsterau.

Rhoddwyd disgrifiad cyffredinol o blant ag anghenion addysgol arbennig fel rhai ag anawsterau dysgu byddai'n galw am ddarpariaeth arbennig.

Yr oedd yn naturiol iawn i rwystrau ac anawsterau godi eu pennau mewn mudiad cydbleidiol a newydd.

hynny yn rhy swil o ddim rheswm i sôn am f'anawsterau ar goedd y Cyfarfod Misol.

Eto cyfyd damcaniaeth Branwen Jarvis anawsterau: yn yr ail bennill, os Crist a olygir gan 'Arthur Iôr' sy'n arbed Mabon ac yna rywsut yn peri ei fwrw i 'fydafon geol y gelyn' yna ni ellir gwneud synnwyr o'r peth.

A yw trefniadau ar gyfer adnabod a chynorthwyo disgyblion ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol (AEY) yn cael eu cydlynu â threfniadau AAA eraill?

Unwaith inni weld sut un ydyw a'r math o anawsterau y mae'n eu hwynebu yn feunyddiol wrth geisio crafu bywoliaeth yna daw yn gyfaill inni, neu o leiaf yn rhywun sydd oherwydd ei ymdrech i gael dau ben llinyn ynghyd yn haeddu ein cydymdeimlad a'n cymorth.

Yn ystod y flwyddyn, tynnwyd sylw'r Swyddfa Gymreig yn gyson at bwysigrwydd y cynlluniau sydd gan yr awdurdodau i gynnal gwasanaeth athrawon bro a sefydlu canolfannau i hwyr-ddyfodiaid er mwyn goresgyn anawsterau sy'n codi o brinder athrawon a mewnlifiad disgyblion di-Gymraeg i ardaloedd Cymraeg.

Eto, er yr holl anawsterau, y mae arwyddion gobaith yn cyniwair yng nghefn wlad Cymru heddiw, a rhaid i ni fanteisio arnynt er mwyn hybu popeth sy'n faneisiol i'r Gymraeg.

I ddiffinio bwriadau, targedau ac amcanion I drefnu profiadau dysgu mewn gwyddoniaeth sydd yn ystyrlon a pherthnasol ar gyfer disgyblion a phob math o allu ac o bob oed yn amrediad yr ysgol uwchradd I ddethol, defnyddio a rheoli'n effeithiol y cwmpas llawn o ddefnyddiau ac adnoddau sydd ar gael I drefnu a chadw trefn ar wersi theori a gwersi ymarferol fel ei gilydd I fod yn sensitif i anghenion disgyblion ag anawsterau dysgu, disgyblion a gallu arbennig a grwpiau ethnig lleiafrifol I feithrin y sgiliau rhyngbersonol priodol ar gyfer cyfathrebu â disgyblion, rhieni a phobl broffesiynol Sgiliau Labordy Paratoi defnyddiau labordy ar gyfer dysgu Arddangos arbrofion a thechnegau ymarferol i'r disgyblion Rheoli gwahanol fathau o wersi ymarferol Gwybodaeth Wyddonol Y mae gan y myfyrwyr i gyd radd yn y gwyddorau ond bwriad arbennig y cwrs yw estyn ac ehangu eich profiad yn y canlynol:

ac oherwydd anawsterau daearyddol ac eraill ni fedrwyd cael gymaint o gyfarfodydd ac a fyddai'n ddelfrydol.

Wrth drafod amodau'r swydd pwysleisiodd y pwyllgor cyfrifol yr anawsterau ariannol.

Ac yn chwyldro enbyd yr Ugeinfed Ganrif, 'rwy'n credu mai gwell ydy i rai arweinwyr ddod i'r Ffydd ar ôl anawsterau dirfawr.

ganlyniad, gellir graddol lunio disgrifiad cydlynus o gefndir, cyrhaeddiad ac anawsterau'r plentyn.

Anawsterau felly yn amlach na pheidio sy'n wynebu'r myrdd o newyddiadurwyr fydd yn heidio'n rheolaidd i wahanol uwch- gynadleddau.

Mewn rhai achosion, mae anawsterau gallu'n benodol, ac yn effeithio ar gynnydd mewn rhai meysydd o'r cwricwlwm, megis llythrennedd, yn fwy nag eraill.

Anghenion o ran gallu a/ neu rhai cymdeithasol yw'r rhain fel arfer, ond weithiau achosir, neu fe ddwyseir, anawsterau dysgu gan nam ar y clyw neu nam gweledol, anabledd corfforol neu anawsterau emosiynol ac o ran ymddygiad.

Y maent wedi eu cylchynu ag anawsterau cymhleth ac yn gorfod dioddef ar y mwyaf o feirniadu disylwedd.

Trafod anawsterau ffarmio o fewn y Parc Cenedlaethol.

Fyddwn ni heddiw ddim yn sôn gymaint â hynny am anawsterau.

Y mae bod yn etifedd dau ddiwylliant yn gallu creu anawsterau digon blin yn aml ac nid y lleiaf ohonynt yw anallu'r sawl na wyr iaith ond Saesneg i sylweddoli nad yw medru Saesneg a bod yn hyddysg yn hanes a llenyddiaeth Lloegr o angenrheidrwydd yn gwneud pobl yn Saeson.

Fe all y sefyllfa ieithyddol yn yr ysgolion hyn fod yn ddyrys gan achosi nifer o anawsterau.

Roedd hyn yn arwydd da ond wedi'r holl anawsterau ni theimlai Rhian yn or-obeithiol.

Eglurodd swyddog o'r Rheilffyrdd Rhanbarthol nad ef oedd yn ymdrin â materion fel hyn ac iddo gael anawsterau i gysylltu â'r swyddog perthnasol.

Cafwyd trafodaeth ynglŷn â dileu'r gwasanaeth tren olaf o Bwllheli a datganwyd bod hynny'n creu anawsterau i ddefnyddwyr lleol.

Rydym yn cydnabod yr anawsterau wrth herio'r status quo ond yn fodlon cymryd cyfrifoldeb i geisio newid y drefn ac yn benderfynol o lwyddo. 02.

Meddai un ohonynt, 'Mae gobaith y bobl yma yn wyneb anawsterau fil yn ysbrydoliaeth inni.