Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

andwyol

andwyol

Bydd datgomisiynu Gorsaf Ynni Niwcliar Trawsfynydd, oedd yn cyflogi nifer sylweddol ac yn nodedig am gyflogau uwch na'r cyfartaledd, yn cael effaith andwyol ar y ddau ffigwr yma.

Gan wybod fod distawrwydd yn andwyol i gerfiwr nerfus, ceisiais ailgychwyn ymgom gyffredinol trwy wneuthur sylw edmygol parthed darlun o General Buller a oedd yn hongian ar y pared gyferbyn.

Os derbynnir y ddadl honno, rhaid derbyn yn ogystal mai pris mynediad ar y telerau hynny oedd stad o israddolder andwyol sy'n dal i grawnu yn ein bywyd cenedlaethol gan 'dorri mas yn achlysurol yn gornwydydd piws.

Nid yw, o ganlyniad, yn anodd credu bod ei effaith ar yr iaith Gymraeg yn nydd ei chyfyngder yn un andwyol.

Ac i fod yn hollol onest, faint ohonom ni'r 'werin' gyfoorddus, hunan gyfiawn sydd a'r syniad lleiaf o achosion y streic andwyol hon?

Ni fyddai hyn ond yn rysa/ it ar gyfer ansadrwydd andwyol yn y system addysg yn y gymuned honno.

RHEOLI GWASTRAFF: Gall is-gynhyrchion cloddio mwynau gael effeithiau andwyol sylweddol os na chânt eu hail-ddefnyddio, eu hail-brosesu neu eu gwaredu'n ddiogel ac mewn modd heb fod yn rhy amlwg.