Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anelu

anelu

Rhaid i wasanaeth da, sy'n anelu at yr ansawdd bywyd gorau posibl i'w defnyddwyr, roi pob anogaeth i ddefnyddwyr y gwasanaeth i wneud penderfyniadau yngl^yn a'u bywydau eu hunain.

Yr oedd Sean yn anelu am Luimneach a minnau eisiau mynd drwy'r dref honno am An Daingean.

Ac yna roedd y cwch cyflym wedi troi ac yn anelu fel mellten am yr agoriad cul i'r mor mawr.

Cododd un ohonynt ei arf at ei ysgwydd ac anelu at y plant.

gwyddent am ambell bren i 'w ddringo, neu caent hyd i ryw bostyn i anelu cerrig ato neu dorri or llwyni rifolfer a phistol fel rhai starski a hutch.

Bydd yn rhoi cyfle i bawb feddwl am yr hyn y maent yn anelu ato a bydd yn gosod disgyblaeth ar y gwahanol adrannau, fel bod y penaethiaid yn deall y sefyllfa ac yn osgoi gweithredu'n groes i'w gilydd.

Anelu tua'r de-ddwyrain dros gefnen greigiog Blaen Rhestr i'r hen ffordd las a throi i'r chwith heibio Carn Ricet i gyrraedd yn ôl i'r car.

Gweithredir y polisi hwn mewn ffordd a fydd yn cynhyrchu incwm rhent digonol i ariannu gweithgareddau'r Gymdeithas yn llawn, ond ar yr un pryd anelu at gadw ein ymrwymiadau i osod lefelau rhenti fel y gall pobl ar incwm isel eu fforddio.

Mynnai gael swm pendant i anelu ato wrth gynilo.

Safle ysgol fywiog wedi ei anelu at blant a'u teuleuoedd.

Dyna rydan ni wedi bod yn anelu amdano ers 'mod i efo'r clwb.

Wrth foduro trwy Fethel, awgrymodd ef fy mod yn gyrru at y ffordd newydd ac anelu tua Bangor o gyfeiriad Castell Penrhyn, ffordd bur anghyfarwydd i mi.

Efallai nad ydi sengl Stereophonics wedi cyrraedd y siopau eto, ond mae'r gân ddiweddaraf gan David Gray yn anelu at y deugain uchaf yn barod.

Mae'r grwp yn anelu at wasgaru'r wybodaeth amdanynt yn lleol, yn genedlaethol a thramor yn gyson.

Serch hynny, i fudiad a froliai ei fod yn anelu at chwyldroi amgylchiadau cynhaliol yr iaith Gymraeg, rhaid cyfaddef mai gwendid oedd y diffyg canolbwyntio ar syniadaeth.

Dyma bellach fynegi mewn beirniadaeth yr hyn yr oedd amryw yn anelu ato.

Ar yr un pryd, ymbiliwn arnat oleuo meddyliau a chydwybodau arweinwyr y cenhedloedd i anelu at amgenach cyfiawnder wrth drafod cynnyrch y ddaear er mwyn lleihau newyn ac angen.

'Rydym yn gwerthu llyfrau Cymraeg yn ogystal â llyfrau wedi ei hysgrifennu yn Saesneg gan rhai o nofelwyr a haneswyr gorau Cymru a anrhegion a chreftau Cymreig'. Mae wedi ei anelu at y rhai hynny sydd am archebu cynnyrch mae nhw eisioes yn gwybod amdano.

fodd bynnag dylai'r gwaith mae yorath wedi ei gychwyn ymhlith chwaraewyr ifanc yng nghymru barhau ac y mae o, peter shreeves a jimmy shoulder am efelychu norwy sydd yn meithrin pêl- droedwyr ifanc ar gyfer y system y maent yn anelu ati.

Rydym yn gwerthu llyfrau Cymraeg yn ogystal â llyfrau wedi ei hysgrifennu yn Saesneg gan rhai o nofelwyr a haneswyr gorau Cymru a anrhegion a chreftau Cymreig. Mae wedi ei anelu at y rhai hynny sydd am archebu cynnyrch mae nhw eisioes yn gwybod amdano.

Daeth pregethu'n fwy angerddol, yn anelu'n uniongyrchol at gau pobl ym mwlch yr argyhoeddiad, yn llai ffurfiol ei arddull.

Ar sail canlyniadau'r arolwg, dylid anelu at sefydlu cyfundrefn o ledaenu adnoddau sydd yn gost-effeithiol a sydd hefyd yn sicrhau y defnyddd helaethaf o'r holl adnoddau a gynhyrchir gydag arian cyhoeddus.

Ond, ac yntau'n un o dras amaethyddol ac, o ran anian, yn gredwr mewn datblygiad a chynnydd, mae ei adroddiadau hefyd yn taflu goleuni ar America'r wlad fawr, flaengar, gyda'i diwydiannau cotwm ac olew, ei ffatri%oedd caws a'i bwydydd anghyfarwydd; roedd hefyd yn anelu at roi gwybod i'r Cymry gartre' am fywyd eu cyd-wladwyr a ymfudodd tros yr Iwerydd.

Mae cynnwys y Gymraeg fel rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol, ac felly'n rhan o brofiad addysgol pob plentyn, yn golygu y gellir anelu at sicrhau isafswm o ruglder yn y Gymraeg gan bob plentyn.

Yn un o sêr Minder am flynyddoedd, mae Povey yn anelu at ysgrifennu deunydd ymestynnol, gan gyflwyno pynciau tabw fel llosgach i'r cyhoedd a'u trafod mewn cyd-destun Cymreig.

Wel, maen nhw ar fin dychwelyd yn dilyn cnul marwolaeth y llynedd pan fomiwyd eu ffatri yn Iwgoslafia gan Nato - a oedd yn anelu at Slobodan Milosevic mewn gwirionedd.

Penderfynodd y capten y byddai'n anelu adre am Genoa - 'o leia mi ga'i groeso'n fanno' - i fyny'r arfordir.

* Dylid cydnabod yn achos y Gymraeg, fel yn achos Saesneg, fod disgyblion yn anelu at ennill rhwyddineb llawn yn yr iaith ac y dylid asesu pob disgybl yn y pendraw yn erbyn yr un targedau cyrhaeddiad.

Rhyw ddicter ar gynnydd fel bys cyhuddgar yn cael ei anelu ato hi.

Yr etholiad hwnnw, mewn gwirionedd, oedd dechrau ei gyrfa fel plaid wleidyddol yn anelu at gyrraedd ei nod trwy gyfrwng etholiadau.

i'r myfyrwyr ddysgu drostynt eu hunain, ac o'r safbwynt dysgu dwyieithog rhaid anelu'r wers at allu ieithyddol y mwyafrif.

Yn hytrach nag anelu'n union at y garnedd mae'n werth gwyro rhyw ychydig i'r dde er mwyn osgoi mawnogydd gwlybion Cors yr Hwch a Blaenrhiwnant.

Edrychais arnynt yn gadael heb unrhyw fath o chwerwder, ac anelu am ddrws y stafell bwyso.

I'r fan honno roeddwn i'n anelu ar fwrdd hen sgwner anferth, yng nghwmni tua chant o ymwelwyr, i weld llosgfynydd sydd, er yn dal i ffrwtian, yn ddiogel i'w ddringo.

Maen gyfle hefyd i'r bechgyn na whariodd ddydd Sadwrn i anelu at yr un math o safon a chreu yr un argraff ar Graham Henry, Lee Jones a Geraint John ag a wnaeth y 22 oedd wedi chware erbyn diwedd y gêm honno.

(ii) Bod y Cyngor newydd yn sefydlu polisi iaith cryf er sicrhau gweinyddiaeth trwy'r Gymraeg ac yn anelu trwy benodi ac hyfforddi bod pob un o'r swyddogion â gwybodaeth o'r iaith Gymraeg.

Rhan o'n cynhysgaeth ni yw mawrygu'r iaith ac yr ydym yn dra dyledus i'r ysgolheigion hynny, fel Syr John Morris Jones, a'n dysgodd ni i geisio anelu at y safonau uchaf posibl wrth drafod yr iaith.

Hanner awr yn ddiweddarach roedd pawb yn ddiogel arni hi, yn anelu at y tir sych o'r diwedd.

Yn un o sêr Minder am flynyddoedd, mae Povey yn anelu at ysgrifennu deunydd ymestynnol, gan gyflwyno pynciau tabw fel llosgach i'r cyhoedd au trafod mewn cyd-destun Cymreig.

Er nad ydw i'n arbenigwraig ar anghenion dysgwyr dwi'n siwr y bydd y fersiwn arbennig hon yn boblogaidd gyda rhieni sydd a'u plant yn dysgu Cymraeg gan ei fod wedi ei anelu atyn nhw yn benodol.

Mae rhan helaeth o'r adar fydd yn y wlad yma yn anelu am arfordir gorllewinol Ffrainc, ac yna yn teithio i lawr trwy Sbaen ac i ogledd Affrica cyn wynebu'r daith ofnadwy ar draws diffeithwch y Sahara.

Er bod yr hyn a saethwyd eisoes yn "fendigedig" eglura Mary Simmonds fod y tîm cynhyrchu yn anelu at "berffeithrwydd".

Trwy ddarparu gwasanaeth Cymraeg cyflawn sy'n anelu at fod cystal â'r hyn a geir yn Saesneg, a thrwy wahodd eu cwsmeriaid i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ddelio â hwy, gall y sawl sy'n darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg gyfrannu'n helaeth at y broses o newid ymddygiad.

Cydymffurfio a'r patrwm yn unig a wna'r gwirionedd rhannol yma mae'n anelu ato.

Rhaid i'r Cadeirydd fod yn ymwybodol o natur y dasg o'i b/flaen a gwybod beth yw'r nod y mae'n anelu ato.

Ond os ydym yn anelu tuag at Gymru sy'n gynyddol ddwyieithog dylid ceisio meithrin agweddau cadarnhaol tuag at ddwyieithrwydd drwy sicrhau fod pob plentyn sy'n derbyn addysg feithrin yn cael blas o'r Gymraeg fel rhan o brofiad addysgol cynnar.

 Chaerdydd yn anelu gwneud mwy o argraff ar y llwyfan Ewropeaidd mae'n ymddangos bod gan Ian Mackinsotsh y cymwysterau sydd eu hangen ar dîm y brifddinas.

Y "pethau pwysicach" oedd anelu at fod yn feddyg neu yn gyfreithiwr.

Erbyn hyn, prin y ceir unrhyw adran o waith nad ydyw rywbryd neu'i gilydd wedi codi'r erfyn hwn, ac anelu o leiaf, beth bynnag am danio.

ARGYMHELLWYD y dylai cynrychiolwyr y Cyngor ar y pwyllgor anelu at y canllawiau canlynol:-

Cyfeiriodd rhai eu camrau tuag at yr Alban ond y rhan fwyaf yn anelu am Lundain.

Ond wrth i Saddam anelu ei ddicter mwyaf at Israel, gellid disgwyl y byddai carfan helaeth o Balestiniaid rhwystredig yn edrych arno fel achubwr.

Aiff Trefor a'i dri mab gartref at eu mam, Nia, a'i hail ŵr, Dave: lleolir eu tŷ mewn rhes o dai ar fryn serth sy'n anelu am i lawr; mae Dave yn ddi-waith a dygir y fideo a'r soffa oddi arnynt fesul un.

Gweld gwn-awyr telesgopig yn anelu tuag ataf.