Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anerchiad

anerchiad

Erbyn amser cychwyn i'r cyfarfod yr oedd gennyf bwt o anerchiad, ac nid oedd y siarad yn blino dim arnaf, ond crynwn yn fy esgidiau rhag ofn i rywun of yn cwestiwn.

Anerchiad bur, pwrpasol gan seren cyfres sebon.

Yn ei anerchiad ar ddydd Gwyl Ddewi, saith mil o filltiroedd o Gymru, dyma oedd neges Ben Gregory, Ysgrifennydd NSC Cymru: 'Byddwn yn gwylio canlyniadau etholiadau Nicaragua yr hydref hwn gyda diddoedeb mawr.

Yn ystod ei anerchiad yn oedfa sefydlu Curig dywedodd yr Athro J.Oliver Stephens wrtho, "Yr ydych yn dechrau eich gwaith mewn argyfwng mawr, a diau y penderfynir eich gwasanaeth i raddau helaeth ganddo." A gwir a ddywedodd.

Yr wyf yn ymwybodol wrth gyflwyno'r anerchiad hwn, sydd wedi ceisio codi cwr y llenni ar fyd ieuenctid a sefyllfa bresennol y Gymraeg, fy mod wedi codi mwy o gwestiynau ar y thema dan sylw nag ydwyf wedi gallu cynnig atebion iddynt.

Gorchuddiwyd y bwrdd ar y llwyfan gan Jac yr Undeb a chyhoeddodd Price yn ei lais godidog mai testun yr anerchiad coffa fyddai, "I lawr ag ef mal rhyw gi%!

Trefnwyd gwasanaeth o addolad a diolchgarwch gan Gangen Amlwch o dan areiniad y Canon HE Griffiths, y Caplan, ac ef a draddododd yr anerchiad.

Wedi clywed negeseuon o gefnogaeth cafwyd gorymdaith o ganol y dref at y mast ffôn lle cafwyd anerchiad gan Hywel Williams, darpar-ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn Arfon.

Daeth aelodau eglwysi'r rheithoriaeth ynghyd i Eglwys Dewi Sant gyda'r nos, a chafwyd anerchiad ar Dewi Sant gan y Dr Enid Pierce Roberts.

GO Williams yntau, mewn anerchiad rhagorol iawn, mai fel unigolyn yr oedd yno, yn mynegi ei argyhoeddiad personol ef ei hun.

Yn dilyn ei anerchiad fe geir trafodaeth o dan gadeiryddiaeth Alun Llwyd, Is Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

O safbwynt arall gellir dweud fod mwyafrif gweinidogion yr Eglwysi Rhyddion yn heddychwyr a'u bod yn mynegi eu safbwynt o bryd i'w gilydd mewn pregeth, anerchiad neu erthygl.

Yn ei anerchiad i'r Gymanfa yn y Rlhyl ar y testun 'Peryglon yr Eglwys yn Wyneb Her y Byd', soniodd am y peryglon o gyfeiriad meddyleg, athroniaeth, gwleidyddiaeth ac o gyfeiriad crefydd ei hun, yn arbennig "ysbrydegiaeth a Gwyddoniaeth Gristnogol".

Cafwyd anerchiad gafaelgar gan Mrs Eluned Ellis Jones ar y testun "Un Byd".

Yr anerchiad pwysicaf, fodd bynnag, oedd un Saunders Lewis yn y cyfarfod agoriadol ar "Egwyddorion Cenedlaetholdeb" a gyhoeddwyd yn ddiweddarach fel pamffledyn cyntaf y Blaid.

Athronydd a bardd oedd Adams a thenau iawn yw cynnwys hanesyddol ei anerchiad.