Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anesmwytho

anesmwytho

Roedd yr hogiau wrth y bwrdd yn dechrau anesmwytho a diflasu, braidd.

Cofadail yw safle Dorothea bellach i ddiwydiant llechi a fu unwaith yn llewyrchus, cofadail ddigon arswydus sy'n anesmwytho dyn ac yn gwneud iddo ryfeddu ar yr un pryd.

Ond pan gafodd fyrddio'r llong o'r diwedd rhyfeddai fod creadur mor gryf a solet wrth y cei yn anesmwytho ar y mor agored.

Cythruddodd yr athro beth wrth weled y wen, a'i geryddu mewn modd a barodd i weddill y dosbarth hyd yn oed anesmwytho.

Un bore, 'roedd Deiniol yn hwyr yn cyrraedd llidiart Caeau Gleision, a Charadog yn anesmwytho gan fod gwaith y fferm yn disgwyl.

Nos Wener, wrth i ni baratoi i adael Iran, dechreuais anesmwytho.

'Alla'i ddim.' Roedd PC Llong yn dechrau anesmwytho.

Wedi inni am beth amser drafod cwrs y byd a chwrs y glunwst y dioddefai Huw Huws oddi wrtho, dechreuodd meistr y tŷ anesmwytho.

Ac wedi hwylio am dridiau neu bedwar, ni allai Ibn gofio'n iawn â'r criw i gyd yn dechrau anesmwytho ag anniddigo oherwydd eu bod yn gorfod dognrannu'r dŵr yn ofalus, fe benderfynwyd eu bod am angori llong nid nepell o'r lan, lle gellid gweld tŵr eglwys uwch y coed.

Ne' beidio â lluchio cerrig o gwbl.' 'Wedi dwad â'r hwch at y bae 'rydw i, Miss Willias.' 'Be, ganol nos?' 'Roedd hi 'di mynd yn llwydnos pan sylweddolis i 'i bod hi'n dechra' anesmwytho.' ''Wela' i.