Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anferthol

anferthol

(Gwyddwn, wrth gwrs, beth oedd diweddglo'r hanes, ond daliwn i obeithio, fel pe bawn yn blentyn, nad oedd yn wir.) Yng nghanol y gwasanaeth bu ergyd anferthol a chladdwyd Marie a'i thad o dan wal a cherrig.

Ffurf ar ynni yw goleuni, ac y mae ganddo rym anferthol.

Fodd bynnag, nid yw'r Awdurdod, hyd yma, wedi defnyddio posibiliadau anferthol Technoleg Wybodaeth ar ei staff ei hun, ac mae angen o hyd am wireddu hyn o fewn yr Awdurdod.

Roedd yn barod iawn i ddweud nad oedd dim ateb cynhwysfawr i'w gael, dim ond nifer o geisiadau bychain yma a thraw i ddatrys problemau bychain ar hyd a lled gwlad mor anferthol ac mor amrywiol...

Felly mae pwyse anferthol arno fe a'r tîm.

A dyna lle'r oedd yn sefyll ar lethr uchel yn edrych ar y graig anferthol a safai fel bys mawr ar ochr y cwm.

Teimlwn yn gymysg fy meddwl ac ychydig yn ansicr wrth eistedd ymysg cynulleidfa bitw o ryw hanner cant yn theatr anferthol Elli gyda phawb yn gofyn yr un cwestiwn - "lle mae pawb d'wedwch?" Tybed oedd y gweddill yn gwybod rhywbeth nad oeddem ni'r ffyddlon rai yn ei wybod am y cynhyrchiad?

A cherrig moel ydy waliau'r tū, oddi mew ac oddi allan, llechi glas Eryri sydd ar lawr y stafell fyw, a lle tân anferthol, gyda'r trawst llwyd-ddu gwreiddiol yn dangos olion canrifoedd o'i lyfu gan fflamau, yn ganolbwynt i'r tū cyfan.

Dan arweiniad y cyfansoddwr/animateur Luke Goss, bu perfformiad yn union cyn i Gerddorfa'r BBC chwarae Turangalila anferthol Messiaen.

Credwn fod gan sefydlu'r Cynulliad botensial anferthol o ran datblygu llywodraeth deg a Chymreig ynghyd â hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, economaidd a diwylliannol yng Nghymru.

Oedd ganddo ych anferthol wedi ei ddofi a'i ddysgu fel pan oeddent yn llwyddo i ddal anifail gwyllt yn y goedwig, 'roeddent yn ei rwymo wrth gyrn yr hen "Dic" ac yntau yn eu harwain i lawr at y tŷ.

Ail sioc y daith oedd clywed record o Hogia'r Wyddfa ar y radio - sioc anferthol.