Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anffawd

anffawd

Anffawd Cymru yw nad yw hi'n ynys.

Y fath sbort a gâi y mân ysbigod bonheddig wrth wrando ar Ernest yn adrodd hanes anffawd Harri y Wernddu a'i geffyl di- ail!

Ni fyddai neb byth yn meiddio ei wrthod roedd hanes am rai yn gwneud hynny flynyddoedd maith yn ôl ac roedd y rheiny wedi dioddef sawl anffawd a phob mathau o ddamweiniau yn fuan wedi hynny.

Roeddwn i'n ofni y byddai'r hen drwbl a gefais yn Lerpwl yn dweud yn f'erbyn hefo anffawd fel hyn, ond dywed y doctor fy mod yn syndod o gryf ac iach, a diolch i fywyd braf awyr-agored yr ynys y mae hynny, yn siwr i chi." Er hynny fe roddodd Dad ochenaid.

Rywsut roedd yr ychwanegiad diflas yma am ryw 'anffawd', ar ol son am 'rywun' dirgel o annwyl, yn drech na'r gobaith.

Ond dyna'r union anffawd a ddaeth i ran y gwr a oedd am 'gadw'r brenin'.

'Dwi'n cofio unwaith mam wedi gwneud cwstad wy, a thrwy rhyw anffawd disgynnodd matsian i'r cwstad, heb i mam sylwi, fe gyrhaeddodd y fatsian ar blât 'y nhad, ac yntau'n troi at Glyn, fy mrawd, a deud 'Gymi di hanner y fatsian 'ma efo fi Glyn?' Os bydda ni'n digwydd mynd i rywle i gael bwyd wedyn, tŷ ffrindia' neu gaffi, ac os bydda rhywun yn cynnig cwstard, mi fydda ni i gyd fel un yn dweud, "Oes 'na fatsian yno fo?" 'Roedd nhad yn ddoniol pan oedd o wedi gwylltio hyd yn oed, dyma ddwy enghraifft sy'n dod i'r cof.

Yn ddiweddar o ganlyniad i anffawd ar faes pel-droed fe ddarganfyddwyd fod cymlethdodau wedi dod i'r amlwg ac fe aed ag ef i'r ysbyty.

Anffawd ac anhawddfyd o'r math gwaetha', a doedd un dim wedi mynd o'u plaid er y noson honno.

Ar ôl trosglwyddo'r garreg i'r cychod a fyddai'n ei chludo daeth anffawd arall wrth i'r garreg gwympo i wely'r môr.

'Myfyriwn yn ddyfnach ar ein hanes,' ebe Bebb yn ei ysgrif 'Trydedd anffawd fawr Cymru'.

Falle y gall hi gael rhywun i ofalu am Dilys a'r plant." Adroddodd y plant holl hanes yr ynys, oddi wrth yr anffawd i'r cwch.