Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anfoddhaol

anfoddhaol

Honnwyd bod cyflwr anfoddhaol addysg yng ngogledd Cymru yn deillio yn arbennig o'r camddefnydd o waddoliadau mewn nifer o ardaloedd.

Gan fod llawer o'r offer a ddefnyddir i wneud arolwg tanfor ar hyn o bryd yn ddigon anfoddhaol, gellir dweud fod archaeoleg tanddwr mewn stad o 'anwybodaeth soffistigedig' - soffistigedig gan fod llawer o'r archaeolegwyr modern yn bustachu gyda phroblemau ei lleihau.

Anfoddhaol iawn oedd yr ymateb i'r gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus yn y Sioe Sir mis Medi diwethaf.

Os mai anfoddhaol ydoedd y cychwyn ym Medi fe newidiodd pethau erbyn mis Ebrill pan aeth tîm y Sir i Aberystwyth i siarad yn erbyn gweddill Siroedd Cymru a dychwelyd yn bencampwyr gyda'r cwpan.

Hyd yn hyn, nid oes unrhyw dystiolaeth fod yna weithredu ar yr argymhelliad hwnnw a'r canlyniad yw'r sefyllfa anfoddhaol bresennol lle y mae dryswch ac ansicrwydd ynglŷn â dwyieithrwydd yn y Cynulliad a phenderfyniadau unigol yn cael eu cymryd gan unigolion y tu allan i fframwaith cyffredinol i'r corff cyfan.

Lle bo'r safonau'n anfoddhaol, bydd disgyblion yn ddihyder wrth siarad ac yn methu cyfathrebu'n effeithiol; dealltwriaeth gyfyngedig sydd ganddynt o'r hyn a glywant ac ni allant gynnal sgwrs estynedig; cyfyngedig yw'r rhan y maent yn ei chwarae mewn cyflwyniadau a thameidiog yw eu cyfraniadau at drafodaeth grŵp a dosbarth.

Nid oedd y gweddill, a oedd yn eu mynychu, fawr gwell, gan mor anfoddhaol yr addysg a roddid yno.

Daeth newid ar y drefn o gasglu wedi iddynt sylweddoli pa mor anfoddhaol oedd yr wybodaeth lafar, ac yn wir, pa mor amhosibl oedd teithio i bob twll a chornel.

O fewn Newsnight, ceir elfennau anfoddhaol, a barn y Cyngor yw bod angen ailystyried newyddion hwyrnos, fel y gellir bodlonir gynulleidfa amlwg ar gyfer y gwasanaeth yn ddigonol.

O fewn Newsnight, ceir elfennau anfoddhaol, a barn y Cyngor yw bod angen ailystyried newyddion hwyrnos, fel y gellir bodloni'r gynulleidfa amlwg ar gyfer y gwasanaeth yn ddigonol.

Lle bo ansawdd y dysgu'n anfoddhaol, bydd rhai neu'r cyfan o'r nodweddion hyn yn absennol.

Lle bo ansawdd yr addysgu'n anfoddhaol, bydd rhai neu'r cyfan o'r nodweddion hyn yn absennol.

Fodd bynnag, yn sgîl datganoli, mae'r Cyngor o'r farn fod y gwasanaethau newyddion teledu hwyrnos a phenwythnos cyfredol i gynulleidfaoedd yng Nghymru yn anfoddhaol.

Mae hyn yn ei dro wedi arwain at sefyllfa gwbl anfoddhaol i bawb lle mae hyd at hanner y cynnyrch projectau mewn un flwyddyn ariannol heb gyrraedd yr ysgolion chwe mis wedi diwedd y flwyddyn ariannol honno.