Roedd rhai o chwaraewyr Caerffilin anfoddog gyda Scott Gibbs ar ôl y gêm yn erbyn Abertawe.
Bydd disgyblion yn brin o benderfyniad a dyfalbarhad; byddant yn ddiofal wrth ddefnyddio iaith, yn darllen yn anfoddog ac ychydig o falchder a gymerant wrth gyflwyno'u gwaith.
Belka, Chernysh - arhoswch chi fan hyn!' Edrychai'r ddau gi yn anfoddog wrth i'w meistr gychwyn i ganol y storm eira.
Arhosodd Dilys yr ochr draw i'r bont a gweiddi, 'Rydw i'n mynd - wela i di heno.' Gwelodd Merêd fod rhaid ufuddhau ond gwnaeth hynny'n anfoddog iawn.
Os oedd hi'n ddydd gwaith, a dyn yn ymdrechu, hyd orau'i allu i chwibanu a chodi'i galon wrth gerdded yn anfoddog tua'r ysgol, mynnai'r galon guro'n gyflymach wrth imi brysuro heibio'r rhes o dai lle roedd Talfan yn byw, ac yno y pwysai'n llechwraidd yng nghysgod y drws, ei wallt cnotiog du yn ei lygaid a darn o'i dalcen yn gwenu arnaf.
Tua phedwar o'r gloch, a hithau wedi gorfod cydnabod yn anfoddog na ddeuai o hyd i ddarlun arall yn y llyfrgell, magodd blwc i fynd i'r seler.