Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anfodlon

anfodlon

Byth er y dydd hwnnw y bu'n dyst anfodlon i foddi Betsan, mynnai'r hen wreigan ymwthio i'w ymwybyddiaeth, yn enwedig pan dueddai i'w gysuro ei hun fod popeth yn llaw Duw.

Ni fu Ebrill yn sychach er iddi gynhesu'n anfodlon ar adegau.

Er bod y clybiau wedi cytuno i wneud hynny maen nhw'n anfodlon o hyd gyda'r strwythur sy'n golygu bod naw clwb o Gymru yn y cynghrair yn hytrach na'r wyth y cytunwyd arnyn nhw yn wreiddiol.

Roedd hi'n ymddangos fod yr heddlu'n analluog neu'n anfodlon gwneud unrhyw beth i helpu'r rhai a ddioddefodd.

Nid wyf am geisio ail-ddweud hanes 'Fel Hyn y Bu', gan fod y gerdd yn ei ddweud ef yn gryno ddigon, a chan y bydd y rhai a glywodd Waldo'n ei adrodd yn helaethach, yn hynod anfodlon ar unrhyw ail ferwad a geir gennyf i, er ei bod yn weddus nodi fy mod innau'n ei gofio'n ychwanegu ambell damaid apocryffaidd, megis y sôn fod y brigâd tân wedi gorfod dod allan gyda'r heddlu i chwilio am y sbi%wr.

oedd Waldo'n ddall i rinweddau mawr Dr Williams er ei fod yn dal yn dra anfodlon ar ei agwedd.

"Mae'n deimlad cymysg iawn achos mae rhywun wedi bod yma mor hir - mae cymaint o ffrindiau yma, cymaint o atgofion." Er ei fod yn cyfadde' iddo fod yn anfodlon gyda'i sefyllfa waith, dyw natur ei gytundeb gyda'r BBC ddim yn caniata/ u iddo ddatgelu rhagor.

Y mae'r BBC wedi dangos diddordeb o ryw fath yn ein polisi a'n beirniadaeth; cafwyd cyfarfod gyda Aled Glynne, ond yr oedd ar y cyfan yn anfodlon derbyn ein beirniadaeth.

"Droeon wrth feddwl am faes glo'r De ac am lowyr yr wyf wedi eu hadnabod, 'rwyf wedi cael fy hun yn holi cwestiynau am eu lle yn llên y Gymraeg gan ddod yn anfodlon i'r casgliad nad oes iddynt mewn gwirionedd, fawr o le o gwbwl am nad yw'n llenyddiaeth yn siarad cyfaniaith eu profiad," meddai.

Oherwydd hyn mae nifer o chwaraewyr yn anfodlon i'w mamau, gwragedd neu gariadon eu gwylio'n chwarae.

Rhoddodd Richard yr awenau i'r gwas a dilynodd hi yn ol tuag at y ty yn anfodlon ac araf gan gicio ambell garreg o'i ffordd.

Yn raddol, fel mae'r llyfr yn dirwyn yn ei flaen, dengys Hiraethog ei fod yn anabl neu'n anfodlon i wynebu'r byd yr oedd yn byw ynddo.

Er hynny, fe'i gorfodwyd gan y gwahaniaeth poenus rhwng ei dull hi o waith a'i ffordd yntau i ymdrechu'n anfodlon i ymddiheuro.

At hyn, gwdsom fod llawer o r dychweledigion yn anfodlon ar fynychu'r Eglwys, megis yr oedd eraill yn anhapus ymhlith yr Hen Ymneilltuwyr.

Yn fy ngalar a'm hiraeth, gwyddwn pe bawn yn medru derbyn marw fy nyweddi heb deimlo'n anfodlon a heb chwerwi, y byddwn wedi datblygu'n ysbrydol.

Roedd Wil yn anfodlon iawn ar y pris yr oedd yn ei gael am ei lafur ef a'i anifeiliaid, ac aeth i ben y prif oruchwyliwr, - a oedd yn Sais uniaith, - i ddadlau am godiad yn y pris.