Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anfoesoldeb

anfoesoldeb

Cysga'r gweision yn y tai allan (outbuildings), gan fyned i'w gwelyau pan fynnont; gofyn y morwynion am ganiatâd i fyned allan yn y nos ac yna cyferfydd y dynion â hwynt yn y tafarndai; yn y ffordd hon ceir llawer o anfoesoldeb.

Cyfeddyf i Blaton alltudio'r beirdd o'i wladwriaeth oherwydd 'anfoesoldeb eu disgrifiadau o'r duwiau', ond am farddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, doedd dim culni ar ei chyfyl; eithriad oedd cael moesolwr fel Siôn Cent.

Meddai'r Cyfeisteddfod: 'Da iawn gennym i chwi gael eich argyhoeddi nad oedd unrhyw sail i'r cyhuddiadau o anfoesoldeb .

Yn ôl John Johnes, Ynad, 'ceir llawer o anfoesoldeb rhwng y ddau ryw, yn bennaf ymhlith gweision fferm.

Dyfynnwyd sylwadau nifer o dystion a gyfeiriai at anfoesoldeb ac a gynigiai esboniad o'r sefyllfa.

Os oedd hyn yn wir, yr oedd yn ddigon i gyfrif am bob anfoesoldeb arall, gan fod pob cenhedlaeth yn derbyn ei safon foesol i raddau helaeth oddi wrth y mamau a'i magodd.

Tydi sy'n gallu rhoi iddynt y grymuster moesol i wrthsefyll temtasiynau anfoesoldeb, trachwant a hunanoldeb.

Mae'r bryddest yn llawn o angst y cyfnod ôl-Ryfel: siom, dadrith, euogrwydd, gwacter ystyr, a chais i foddi'r gwacter ystyr hwnnw yn y clybiau nos yng nghanol meddwdod, anfoesoldeb, y 'tango' a 'jazz'. Ceir ynddi ddisgrifiadau cignoeth o ymladd yn y ffosydd.