Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anfonwyd

anfonwyd

Ond ymhlith y rhai a anfonwyd i gasglu'r deunydd roedd yna un proffwyd peryglus o anwybodus.

Anfonwyd ein cofion at Mrs Medi Williams a hefyd Mrs Eurof Jones, y ddwy heb fod yn rhy dda yn ddiweddar.

Anfonwyd Quaboos i Loegr i dderbyn ei addysg ac aeth yn ei flaen i Rydychen lle graddiodd yn anrhydeddus iawn.

Anfonwyd cenhadon Cristnogol o Gâl, Sbaen a'r Almaen.

Anfonwyd cofion atynt.

Anfonwyd hwn at Benedict XIII, Pab Avignon ar 29 Mawrth 1406.

Anfonwyd at y canghennau i'w hannog i sefyll mewn etholiadau lleol: nid anogaeth wreiddiol iawn, ond mae'r anogaeth yn llai pwysig na'r neges o'i blaen, sef bod y Tri yn y carchar am na wnaethai aelodau'r Blaid eu dyletswydd o ennill seddau ar y cynghorau lleol.

(Anfonwyd copi eisoes at yr aelodau gyda rhalgen y Pwyllgor).

Heb sylweddoli hynny yr oedd y cyw-gohebydd a anfonwyd i wrando araith ac a ddaeth yn ei ôl yn waglaw am fod rhywun wedi saethu'r areithydd !

Anfonwyd copi o'r llythyr at Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Er mwyn cydymffurfio â'r patrwm hwn, anfonwyd meibion Gwedir, oherwydd diffyg canolfan addysg uwch yng Nghymru, i ysgolion a phrifysgolion yn Lloegr, lle y deuent i gysylltiad ag etifeddion y prif fonedd, a lle y mabwysiadent y cwrteisi a'r moesau hynny a dderbynnid yn rhan anhepgorol o'u dull o fyw wedi iddynt ymadael oddi yno.

Yn y llythyr yn trosglwyddo aelodaeth a anfonwyd gan ysgrifennydd Eglwys Ebenezer, Llanelli at ysgrifennydd Rhydyceisiaid, at un o'r plant yn unig y cyfeirir, sef Euros.

Y mae David Ellis yn sôn yn hiraethus amdano mewn llythyr a anfonwyd ganddo (lai na deufis cyn iddo ddiflannu) at Tomi Jones, Cernioge Bach (Aelwyd Brys, Cefn Brith wedi hynny).

Yn sgîl y ddogfen, anfonwyd llythyr/datganiad at nifer helaeth o bapurau newydd lleol a chenedlaethol.

Dim ond 5 pryddest a anfonwyd i gystadleuaeth y Goron, ac nid oedd y beirniaid yn llwyr fodlon ar y bryddest a wobrwywyd.

Anfonwyd fersiwn uniaith Saesneg yn rhad ac am ddim i bob cartref yn y chwe sir.

Yn gynnar yn y flwyddyn newydd anfonwyd llythyr i bob Awdurdod Unedol yng Nghymru yn datgan disgwyliadau'r Gymdeithas o'u polisïau iaith.

Rheswm Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros gredu fod y wraig hon ar goll yw nad yw yn ateb llythyron anfonwyd ati gan y Gymdeithas.

Ar unwaith anfonwyd cwch i aros yn y môr gerllaw'r clogwyn, a rhuthrodd ambiwlans drwy'r lonydd cul gyda thîm achub ynddi.

Anfonwyd y dynion papur newydd allan ar ol iddyn nhw gael ychydig o eiriau gan y plant a chael lluniau ohonynt.

Anfonwyd datganiad tebyg at Mr S gan Fedyddwyr y cylch; ac anfonodd Home Guard Llandysilio i ddweud y byddent hwythau'n ymddiswyddo oni chedwid Waldo yn ei swydd.

Ddiwrnod yr etholiad anfonwyd yn llythrennol filiynnau o ebyst at bleidleiswyr unigol yn enw yn enw Tipper Gore.

Anfonwyd cywaith gan Dic Jones a'i ddosbarth, dan y ffugenw Lleng, i'r gystadleuaeth.

Anfonwyd y chwaraewyr yn ôl i'r ystafelloedd newid.

Yn dilyn Gwrthryfel Casnewydd, anfonwyd yr arolygwr H.

Anfonwyd am Vivian yn ddioed, a daeth yntau i *ny i'w gweld ac i ddatgan ei farn (beth bynnag oedd ei gwerth, gan mai ef, o'r holl ddynion, a wyddai leiaf ar fater o'r fath) .

(Anfonwyd copi eisoes at yr aelodau gyda rhaglen y Pwyllgor).

(Anfonwyd copi at yr aelodau gyda'r rhaglen).