Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

angenrheidiau

angenrheidiau

Cydnabuwyd ysgolheictod yn ei gyfanrwydd yn un o'r angenrheidiau pennaf yn natblygiad y dosbarth tirol, a'r prif gwrs astudiaeth a gymeradwywyd yn ôl traddodiad oedd rhethreg, mathemateg, seryddiaeth, barddoniaeth, prydyddiaeth, hanes, a gramadeg.

Yr oedd y streic wedi ymledu dros ryw draean o holl faes glofaol Deheudir Cymru, ac yr oedd teuluoedd y streicwyr yn mynd i ddyled er mwyn cael angenrheidiau bywyd, a'u hiechyd yn dioddef yn arw o ganlyniad i ddiffyg ymborth.

Y mae traed yr holl greaduriaid gwedi eu haddasu yn neilltuol i'w angenrheidiau a'u dull o fyw, fel y mae yn amlwg i sylw pawb a ystyrio hyny.

Dyma'r grefydd newydd, y gofal gormesol am angenrheidiau'r corff.

Mae llaw dyn yn fwy cyntefig ei ffurf a'i hyblygrwydd na'r un aelod sy'n cyfateb iddi gan un creadur arall, a'r ffaith ei bod felly sy'n ei galluogi i'w haddasu ei hun at wahanol ofynion ac angenrheidiau dyn.