Ni thybir ei fod yn uniongyrchol berthnasol i bwnc yr ysgrif hon, gan nad yr un o angenrheidrwydd yw'r hyn a ddywedir yn yr Hen Destament am y syniad o genedl â'r hyn a ddywedir am y syniad o Israel.
Yn y lle cyntaf nid ydyw'r ffactorau sy'n pennu cyfradd y twf dichonol o angenrheidrwydd yn aros yn ddigyfnewid.
Fel canlyniad i newidiadau o'r fath, nid ydyw cyfradd twf dichonol yr economi yn aros yn gwbl sefydlog, ac nid yw'r gromlin ILI yn y diagram, felly, ddim o angenrheidrwydd yn un liniol.
Nid oes gan rai beirdd (a chofier, nid rhai i'w bychanu na'u hanwybyddu ydynt o angenrheidrwydd) mo'r gallu i uno'r annhebyg.
Nid oes a wnelo'r darlun o Israel fel pobl Dduw ddim o angenrheidrwydd â'r syniad o genedl fel uned gymdeithasol a pholiticaidd.
Mae hynny'n bwysig am fod ymwybyddiaeth o dras (nid trwy waed o angenrheidrwydd) yn debyg o gynysgaeddu pobl a theimlad o gyfrifoldeb.
ychwanegodd na fydd pobl o angenrheidrwydd yn mynychu'r ganolfan i ddilyn cyrsiau.
Cytunwn yn llwyr â'r Dr Rachel Bromwich fod tystiolaeth y Trioedd hynny lle cyfeirir at Drystan yn hynod bwysig, ond rhaid cofio nad yw cyfeiriadau o'r fath o angenrheidrwydd yn datgelu gwybodaeth am fwy nag un episod neu elfen stori%ol: ni allwn gymryd yn ganiataol eu bod yn adlewyrchu gwybodaeth am chwedl go iawn.
Nid ydwyf yn dywedyd fod llafurio ac ymboeni gyda hyn o angenrheidrwydd yn niwed i wir grefydd a duwioldeb yn yr enaid....
A rhagddo i ddangos angenrheidrwydd y gwaith hwn, ei ddull, a'i ddiben, ond gan wneud hynny mor asttus fel y mae'n anodd iawn ei ddilyn.
Y mae bod yn etifedd dau ddiwylliant yn gallu creu anawsterau digon blin yn aml ac nid y lleiaf ohonynt yw anallu'r sawl na wyr iaith ond Saesneg i sylweddoli nad yw medru Saesneg a bod yn hyddysg yn hanes a llenyddiaeth Lloegr o angenrheidrwydd yn gwneud pobl yn Saeson.
Atebir y cwestiwn hwn trwy ddweud mai proses ystadegol yw esblygiad, sy'n dibynnu ar hap a siawns, ar gael cydweithrediad rhwng digwyddiadau annhebygol, ac ar yr angenrheidrwydd i'r rhain ddigwydd mewn trefn neilltuol.
Yn aml y mae plentyn yn siarad mewn ffordd ddealladwy ymhell cyn iddo fod â rheolaeth lawn dros seiniau iaith ei gymuned a gall pob defnyddiwr iaith hyfedr saernio brawddegau er nad oes ganddo, o angenrheidrwydd, ddealltwriaeth lawn o "ramadeg" ffurfiol llunio brawddegau.