Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

angerdd

angerdd

Nid rhethreg niwlog Lloyd George mewn Eisteddfod mo hyn; dyma angerdd llym meddwl effro a bywiog.

Gorweddodd ar y llawr ac ymrolio ar ei hyd gan angerdd y chwerthin.

'Waeth i mi gyfaddef ddim, yr wyf i'n trysori'r galwadau ffôn yna lawn cymaint ag y trysoraf ei llythyron, achos yr oeddynt yn arddangos angerdd.

Roedd angerdd a drama ym mherfformiad y ferch hon.

Y peth sy'n llorio pobl feilchion yw sylweddoli gydag angerdd fod Iesu Grist wedi gwneud rhywbeth drostynt hwy'n bersonol.

Mae ambell ddyn yn amgyffred gwirionedd gyda'r un angerdd ag y mae dyn arall yn colli ei galon i ferch : mae'r gwirionedd yn ei feddiannu, megis ac y mae'r munud y digwydd hynny'n dyngedfennol yn ei hanes.

Pan yw'n gwneud gosodiadau cyffredinol am lenyddiaeth, ei duedd yw pwysleisio elfennau fel crefft a deall, ond wrth drafod llenorion unigol, y maent yn aml yn ei gario ar donnau angerdd nes ei fod yn traethu ar ddwyster eu gweledigaeth o fywyd.

Gan Dduw na allem garthu allan y fath ffolineb ac ailfeddiannu unwaith eto yr angerdd a yrrodd bobl Llanfaches i daenu'r newyddion da ar hyd blaenau cymoedd Gwent a Morgannwg.

Mae'n hynod bwerus a mae'r angerdd y gitars ar gychwyn y gân yn creu'r ymdeimlad o "Angst Bersonol".

A gostyngeiddrwydd mawr, atebais innau fy mod yn credu y defnyddiai'r Arglwydd fi yn gyfrwng i'w hiacha/ u hi A'm calon yn llosgi ynof, dodais fy nwylo ar ei phen a gweddi%ais ag angerdd am i'r Arglwydd gyffwrdd â hi y foment honno yn ei gwendid a'i hiacha/ u.

Parry-Williams - ac fe wnes i hynny gydag angerdd.

O gymharu ag angerdd y gân gynta mae'r ail gân, syn Saesneg, yn gyferbyniad llwyr ac yn dangos bod Melys yn gallu addasu steil eu caneuon.

Roedd Lloegr yn enbydus o wael y pnawn hwnnw ond roedd 'na angerdd yn nhîm Cymru a dyna oedd y gwahaniaeth, ynghyd â'r ffaith.

Teimla'r bardd angerdd mawr tuag at gymeriadau gwladgarol fel y dengys y cerddi i Michael Collins ac Elfed Lewis.

Ei ffefryn fodd bynnag fyddai amrywiad, o'i chyfansoddiad ei hun mae'n debyg, ar yr un patrwm mydryddol, y byddai'n ei ganu â chryn angerdd.

Hawdd yw bod yn genfigennus o'r angerdd yn ei cherddi ac o'i brwdfrydedd.

Roedd cystadlaethau llefaru a chanu yn Gymraeg a Sbaeneg. Roedd hyn yn rhyfedd - roedd llawer mwy o angerdd yn y canu Cymraeg nag yn canu Sbaenaidd.

Yr oedd yr asbri hwn yn cynganeddu'n berffaith ag angerdd efengylu William Wroth ei hun.

Nid yr elfennau hyn sy'n amlwg, ond yn hytrach barhad, ar newydd wedd a chydag angerdd newydd, o'r ysbryd Rhamantaidd hwnnw a oedd eisoes wedi chwythu'i blwc mewn gwledydd eraill.

Ym mhob dyn mab dau Gwelit y golau Ac yng nghraidd y gau angerdd y gwir....

Yn y ddau waith, yr hyn y ceisir ei ennyn ynom yw'r argyhoeddiad fod y cylch canolog o gymeriadau'n 'iawn', mai ynddynt hwy y costrelwyd prif egwyddorion y traddodiad, a'u bod yn benderfynol o herio gydag angerdd cyfiawn y grymoedd hynny sydd ar fin rhuthro fel cenfaint o foch a sathru'r egwyddorion santaidd.

Ond ar ôl hynny, gostyngodd yr angerdd a chafwyd pregethu mwy rhyddieithol, mwy deallusol, llai teimladol.

Ar y llwyfan, fe gafwyd rhes o areithiau sychion a datganiadau cerddorol yn llawn gallu technegol ond yn brin o angerdd.

Ceisiai adnewyddu ffydd ei bobl trwy bregethu efengyl a darddai o'i thraddodiad ei hun: cyhoeddai gyflawniad yr amser a'i egluro trwy sôn am y gobaith yn ysgrythurau ei genedl am oes fesianaidd, oes sanctaidd, a'i chyfiawnder a'i chariad yn amlygu holl angerdd ac arddeliad yr Ysbryd.

Hynny yw, mae'r meddwl fel petai'n cael ei godi i ryw angerdd creadigol anarferol, a gall hyn gael ei adlewyrchu yn yr hyn y mae'r meddwl yn ymwybod ag ef neu yn y graddau y mae'n ymwybod ag ef yn goystal ag yn y ffordd y mae'n mynegi'r ymwybod hwnnw.

Christ I could turn quicker than him nowl" Gymaint oedd yr angerdd yn ei lais yn ystod yr araith honno nes fy mod i'n teimlo fel weud Anghofiwch y anio bois gadewch i ni gael gafael yn Lloegr nawr"' Yn sydyn roedd bywyd gyda thîm pêl-droed Cymru wedi cyflymu i gan milltir yr awr.

Nid gwybod farw o Grist tros bechodau'r byd sydd yn achub ond cymhathu ag angerdd calon y ffaith fod Crist wedi marw "trosof fi%.

Cafwyd nosweithiau gwell hefyd er nad oedd unrhyw angerdd yng ngharu Dilys, dim ond rhyw gydsyniad heb foddhad amlwg.

Mae'n amlwg fod Lenz yn gweld colli'r emosiwn a'r angerdd a oedd yn rhan o brotestiadau'r chwedegau ac yn teimlo mai llwm a dideimlad yw gwleidyddiaeth y saithdegau cynnar mewn cymhariaeth.

Bu angerdd anghyffredin yn yr oedfa ddydd Sul fore'r Nadolig yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd ym Mryncir.

Sgrifennwyd hi gydag angerdd cwbl wahanol i bob un o'r llyfrau eraill.

Ymateb y bardd yw fod Iesu'n ddyn o flaen popeth ac iddo yntau brofi 'angerdd ieuanc nwyd':