Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

angerddol

angerddol

Nid oes amheuaeth nad oedd ganddo, fel sawl bardd arall, synhwyrau main ond gan mor angerddol oedd ei ymserchu yn nodweddion y byd o'i gwmpas dymunai iddynt fod yn feinach byth.

Yr hyn a olygir yw y dylai pa gredoau bynnag sydd gan y bardd fod hefyd yn deimladol angerddol ganddo, yn hytrach na bod yn ddogmâu a wasanaethir o gydwybod neu o ddyletswydd.

Cofiwn hefyd eiriau'r Salmydd: 'Fy llinynnau a syrthiasant mewn lleoedd hyfryd; y mae i mi etifeddiaeth deg.' Yr oedd David Ellis yntau yn caru bro ei febyd yn angerddol.

Ffordd arall o osod y peth fyddai dweud fod meddwl a theimlo ynddo mor glwm wrth ei gilydd ac mor angerddol fel yr oedd rhaid iddo weithredu arnynt ac wrthynt.

Dangosodd Waldo yn ei erthygl ar 'Barddoniaeth T. E. Nicholas' mor angerddol y gallai amgyffred gwirionedd ac mor anodd iddo weithiau oedd gwahaniaethu rhwng gwefr sylweddoli gwirionedd a gwefr adnabod barddoniaeth.

Gyda'r newyn daeth awydd angerddol am ysmygu sigaret.

Wedi fy arswydo gan dlodi difenwol fy mhobl sy'n byw mewn gwlad gyfoethog; wedi fy nhrallodi gan y modd y cawsant eu hymylu yn wleidyddol a'u mygu yn economaidd; wedi fy nghynddeiriogi oherwydd y difrod wnaed i'w tir, eu hetifeddiaeth gain; yn pryderu tros eu hawl i fyw ac i fywyd gweddus, ac yn benderfynol o weld cyflwyno trefn deg a democrataidd drwy'r wlad yn gyfan, un fydd yn amddiffyn pawb a phob grwp ethnig gan roi i bob un ohonom hawl ddilys i fywyd gwâr, cysegrais fy adnoddau deallusol a materol, fy mywyd, i achos yr wyf yn credu'n angerddol ynddo, ac ni fynnaf gael fy nychryn na'm blacmêlio rhag cadw at yr argyhoeddiad hwn.

Daeth pregethu'n fwy angerddol, yn anelu'n uniongyrchol at gau pobl ym mwlch yr argyhoeddiad, yn llai ffurfiol ei arddull.

Nid wyf yn amau na chafodd Waldo'r math hwn o brofiad, a'i gael "in the silence of the night and in rare lonley moments", oblegid mae ganddo aml gyfeiriad at y ser yn rhwyllau yn llen y nos, ond gellir mentro dweud fod ei brofiad ef yn fwy cymhleth, yn fwy angerddol o lawer nag eiddo HG Wells.

Buasai dweud fod Affos yn ffond o wynwyn yn llai na'r gwir: carai nhw'n angerddol.

Y mae celfyddyd y Pwyliaid, fel hwy euhunain, yn lawn dewrder, gwreiddioldeb ac ysfa angerddol i gyfathrebu.

Peth ffwrdd-a-hi yw pethynas plant ysgol at ei gilydd, er y gall fod yn boenus o angerddol ar brydiau, a pheth i'w daflu heibio wedi dod i oedran gŵr - neu wraig!

Geraint Jarman - Chwilio am y Llais Angerddol, S4C 8.00 Nos Iau, Medi 28ain.

Maent yn fynegiant o ofn cynhenid dyn; ei ddychymyg rhyfeddol; ei awydd angerddol am wybod yr anwybod; a'i ddyhead oesol am lawenydd a bodlonrwydd.

Fel golygydd Yr Ymofynnydd gwasanaethodd fel cydwybod a chennad, amddiffynnwr ac ymosodwr i'w fudiad - y mudiad a garai mor angerddol.

yr oedd ganddo hefyd ddiddordeb angerddol yn y gwyddorau ffisegol a mecanyddol, ac ar ôl treulio diwrnod o waith yn dysgu cerddoriaeth, ei arfer oedd astudio gwyddoniaeth yn ei amser hamdden.

Yn sicr, dylid sylwi mai wedi alaru'n hollol ar siarad gwag a hunangais ein gwleidyddwyr Cymreig a'n harweinwyr cendlaethol y mae'r ieuanc, ac mai elfen bwysicaf ei gred yw sel angerddol dros yr iaith Gymraeg a'r hen ddiwylliant Cymreig.

Nid oes amheuaeth am ymlyniad angerddol Iesu o Nasareth wrth ei Israel, ei genedl ei hun.

Ond wedi dychwelyd i'w lety ymfwriodd yn fwy angerddol nag erioed i'w lyfrau, a rhyfeddu bod cymaint o hwyl i'w gael yn y gorchwyl o'i gymharu a'r baich a fuasair'r pwnc iddo pan oedd yn llencyn ysgol.

Os profiad neilltuol angerddol yr unigolyn yw defnydd llenyddiaeth, rhaid i'r bardd neu'r nofelydd groesawu'r profiad yn ei gyfanrwydd, a'i fynegi yr un modd.

Drylliwyd delweddau ystrydebol o'r Cymoedd gan y ddrama angerddol Belonging, gydag Owen Teale a Gwen Taylor.

Ceir yr un math o obaith angerddol yn Nuw yng nghaniadau Mair a Sacharias lle y cyfunir y dyheadau am ymwared cenedlaethol a chyfiawnder cymdeithasol.