Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anghenfil

anghenfil

Roedd yr etifeddiaeth, fodd bynnag, yn cynnwys anghenfil y wladwriaeth gostus a oedd yn tagu'r wlad a'i phobl.

Y mae'r 'Loch Ness Monster' wedi hen dynnu sylw'r byd, ond yn ddiweddar daeth rhai pobl i gredu bod anghenfil cyffelyb hefyd yn Llyn Tegid, Y Bala.

A yw pobl wedi gweld yr anghenfil mewn gwirionedd, ynteu ai ei weld y maent â llygad ffydd?

A'r peth nesaf y gwyddai Meic, roedd yn gwibio'n nes at yr anghenfil disglair gan ergydio at ei goesau gyda'r fwyell.

Fel anghenfil mawr, gyda'i oleuni'n fflachio a'i gorn yn canu rhuodd y lori drwy'r strydoedd.

Ateb Teyrnon i'r ymgais gyntaf am ddial oedd trais: fe dorrodd fraich yr anghenfil a oedd wedi cipio'r plentyn.

Mae pob elfen ym mioleg creadur - sut y mae'n datblygu wrth dyfu, lliw y llygaid, math o groen, neu faint crafanc anghenfil - wedi ei chynrychioli gan gyfuniad o un neu fwy o unedau gwybodaeth yn y DNA.

Gwisgai drywsus ac anorac ddu - dillad oedd yn sgleinio fel y moto beic a safai ar ei stand yng nghanol y garej fel anghenfil mawr yn barod i lamu i'r nos.

Mewn ugeiniau o ffilmiau, ef yw'r Frankenstein sydd yng ngrym ei athrylith wyddonol a'i bersonoliaeth rydd yn creu anghenfil na all ei reoli.