Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anghenraid

anghenraid

Er bod y dystysgrif geni yn dweud i'w daid gael ei eni yn Oldham credwn nad yw hynny, o anghenraid, yn wir.

Nid yw hyn o anghenraid yn golygu fod tad Waldo yntau'n dipyn o gyfrinydd, ond nid yw hynny'n amhosibl.

Yr anghenraid i gynllunio cwrs, beth bynnag yw'r cyfrwng - boed teledu neu ystafell ddosbarth - yw cynllunio'r camre.

Dywedir bod gyrrwr yr Irish Mail yn troi'r ager ymaith dair milltir cyn cyrraedd Caergybi, a gallem feddwl am rywun o fewn y tair milltir hynny, wrth ei weld yn mynd heibio'n urddasol, yn ddi-ager a di-stwr, yn ymfalchio ynddo o'i gymharu â'r trenau bach a byffia heibio, heb wybod mai sefyll o anghenraid fydd ei hanes cyn bo hir, mai yn~ n~m y ~allu a drowyd ymaith yr â hyd yn oed

Anghenraid a osodwyd arnaf ydoedd.

Anghenraid cyntaf y gymdeithas genedlaethol Gymreig yw gwladwriaeth; ni ellir ei chreu'n heddychlon heb weithredu gwleidyddol cwbl benderfynol.

Dengys ein profiad ar hyn o bryd, tra bod Gwasanaethau Cymdeithasol yn gefnogol iawn i'n gwaith yn gyffredinol, nad yw eu cyllid hwy o anghenraid yn gallu ymestyn yn gymesur â'n gwasanaeth ni yn eu hardal wrth i hwnnw ehangu.

Gobeithiwn y byddai hyn yn rhoi terfyn ar ddatblygiadau di-anghenraid mewn gwahanol ardaloedd.

Gofid calon i mi oedd ei gwrthod fel hyn ac er bod Eleri yn deall y rhewsm yn well na fi, rywsut yr oedd o anghenraid yn gorfod gofyn.

Pryd ddiwethaf (os erioed) y gwelsoch chi'ch mamau yn pobi bara (erbyn hyn daeth pobi gartref yn orchwyl ymwybodol, nid yn anghenraid) ac yn treulio rhan dda o'r dydd yn glanhau'r tŷ gan flacledio'r lle tân a golchi'r aelwyd?

I'r gwrthwyneb, mynnai'r ddysgeidiaeth swyddogol fod gwerth sacramentaidd arbennig mewn gwrando'r gair heb o anghenraid ei ddeall.