Felly mae'n bosib ystyried bod anffyddlondeb a diffyg teyrngarwch yr anghredadun i'r un yr addawodd rannu ei fywyd ag ef/hi yn gyfryw bechod ag i fod yn sail diddymu'r briodas, yn gymaint ag y byddai godineb.
Yn y sefyllfa hon mae'r anghredadun yn amharod i fyw gyda'r Cristion.
Nac ydi, meddai'r apostol, a lle mae'r person di-gred yn hapus i barhau gyda'r cyfamod priodas, yna ni ddylai'r Cristion wneud un dim i ymwahanu, na chwaith gredu fod y briodas o lai o werth, neu yn briodas lygredig, oherwydd yr anghredadun.
Ond ceid achosion lle 'roedd yr anghredadun yn gwrthod cyd-fyw gyda'r Cristion.