Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anghwrtais

anghwrtais

Ar y llaw arall y mae'r ymfudwyr yn fynych iawn wedi eu magu yn y gred mai rhan o Loegr yw Cymru ac mai bod yn amrwd ac anghwrtais y mae'r Cymry Cymraeg wrth fynnu siarad yr iaith.

A chan mor gryf yw'r patrwm cwrteisi a ddatblygodd yn sgîl y gwaharddiad ar ddefnyddio'r Gymraeg, nid ydynt yn eu gweld eu hunain yn ymddwyn yn anghwrtais.

Nid yw'n anghwrtais i siarad Cymraeg ym mhresenoldeb y diGymraeg.

A rhaid oedd canolbwyntio ar ddal sylw'r werin, digon gelyniaethus ac anghwrtais yn aml, a oedd yn gwrando.

Y Cymry sy'n anghwrtais yn herio'r gwaharddiad.

"Rydw' i'n ddigon prysur rŵan," meddwn i, ar frys, ac yn anghwrtais ddigon er nad oedd yna ddim adwaith oddi wrth y talp o geuled o'm blaen i, "Dodrefnu'r fflat a phrynu celfi newydd, ac atgyweirio a diweddaru a newid tipyn ar y lle hefyd." "Yn wir," meddwn i, a dim ond prin gymryd anadl rhwng dwy frawddeg, "Mae'r pentiwr acw heddiw yn gorfffen addurno'r stafell fyw i mi." Ond nid oedd dianc i fod.

Roedd ym mwriad HR Jones i wahodd De Valera yn ogystal, ond gwrthododd Saunders Lewis y syniad hwn yn bendant; roedd wedi cyfarfod De Valera, ac ni hoffai ei syniadau, a sut bynnag, buasai ei wahodd yn anghwrtais ­ O'Sheil.

Ar y naill law, mynnai'r sawl na allai siarad Cymraeg mai peth anghwrtais iawn oedd siarad yr iaith yn eu presenoldeb.

Ar ben hynny, yr oedd ar y mwyaf o'r bobl a fanteisiai ar ei lafur yn brin eu gwerthfawrogiad ohono ac yn aml yn anhydrin ac anghwrtais.