Yr oedd brwydr Datgysylltiad yn anochel ac yn brif nod Anghydffurfiaeth a Radicaliaeth, a'r degwm yn sbardun.
Yn ôl un tyst nas enwir, roedd cysylltiad rhwng Anghydffurfiaeth ac anniweirdeb merched Cymru.
Yr oedd y Gymraeg yn ddiogel, ac Anghydffurfiaeth Gymraeg ar ei gorsedd, pan oedd Elfed yn ŵr ifanc a chanol oed.
Ar ben hynny 'roedd dylanwad fy Anghydffurfiaeth Gymreig rywle yng nghefn fy meddwl.
Yr oedd Anghydffurfiaeth Gymraeg yn clymu'n undod wlad a thref.
Symptom o'r elfen dawelyddol mewn Anghydffurfiaeth Gymraeg oedd mai ar ddeffroad enaid y rhoddwyd y pwyslais gan weinidog o nofelydd, er iddo ddewis cyd-destun hanesyddol a awgrymai ddeffroadau eraill.
Ac yr oedd hi'n anos byth i'r bardd ymwrthod a'r drefn, oherwydd fod gwerthoedd Anghydffurfiaeth Gristnogol wedi eu gweu mor glos i mewn i batrwm Cymreictod a gwerthoedd hwnnw, nes peri ei bod yn amhosibl bron ymryddhau oddi wrth y naill, heb ar yr un ergyd danseilio'r llall.