Llwyddiannus iawn fu'r ymdrech i ddwyn y Grefydd Anghydffurfiol i blith gwerin Gymraeg yr ardal hon, ond aflwyddiannus fu'r ymdrech i'w Seisnigeiddio, ac yn yr oes hon holwn a yw'r fantol wedi troi.
Yn ei ymosodiad ar gyfrol Ellis Annwyl Owen yn y Seren Ogleddol, cyfyngodd ei feirniadaeth i offeiriadaeth yr Eglwys Wladol, gan honni bod trefn yr eglwysi anghydffurfiol yn sicrhau duwioldeb eu gweinidogion hwy.
Yn yr hen amser yr Eglwysi oedd yr unig sefydliadau o bwys yn ein hardaloedd, ac yr oedd yr eglwysi anghydffurfiol o leiaf yn credu fod hyrwyddo diwylliant trwy gyfrwng eisteddfod yn rhan o'i gwaith.
Ond yr oedd y teitl 'academi' yn cydio'r sefydliadau hyn wrth yr academiau anghydffurfiol a sefydlwyd yn ystod Oes yr Erlid yn yr ail ganrif ar bymtheg ac a welodd eu hoes aur yn y ddeunawfed ganrif.
Hyd yn oed mwy bygythiol ar y pryd oedd nerfusrwydd yr awdurdodau gwladol ynglyn â gweithgareddau'r gwahanol fudiadau anghydffurfiol.
I'r 'gwirfoddolwr', Ieuan Gwynedd, y bygythiad i'r 'genedl Anghydffurfiol' o du'r Eglwys oedd craidd y ddadl yn erbyn derbyn arian y Llywodraeth i ariannu ysgolion.
Y mae Mr Gruffydd yn sicr wedi etifeddu'r safbwynt anghydffurfiol, ac megis Mr Murry yn Lloegr, yn gwneuthur mwy tros fetaffyseg crefydd nag unrhyw offeiriad enwadol y gwn i amdano.
Ychydig o ysgolion Sul oedd gan yr Eglwys, ac er bod gan y Gymdeithas Genedlaethol (Eglwysig) fwy o ysgolion dyddiol na'r Gymdeithas Frutanaidd (Anghydffurfiol), bach iawn oedd eu cyfraniad.
Yr oedd yr amheuon a oedd Hughes, yn ddiau, yn dechrau teimlo am effeithioldeb y drefn hon i gau allan rhagrith o'r pulpud anghydffurfiol, wedi'u tawelu rhywfaint yn ddiweddar gan achos diarddel Edward Roberts gan y Methodistiaid.
Fel un 'a faged yn nhraddodiadau'r Hen Radicaliaeth Gymreig', chwedl yntau mewn man arall, ni allai Gruffydd dalu gwrogaeth ond i draddodiad Anghydffurfiol a ganiatâi wrthryfel parhaus yn erbyn pob awdurdod.
Nid yw hyn yn fawr o syndod efallai, o ystyried mai cenedl Anghydffurfiol a Phiwritanaidd oedd Cymru'r ganrif honno.
Radicalaidd-anghydffurfiol) o'r Eglwys yn y ddeunawfed ganrif, gan bortreadu Theophilus fel esiampl o fywiogrwydd eglwyswyr yn y cyinod hwnnw; mae'n mynd hefyd y tu hwnt i lawer o'n syniadaeth confensiynol ni a dangos sut oedd modd yn y cyfnod hwnnw gydblethu Cymreictod a Phrydeindod gydag arddeliad.
Dilema'r diwylliant lleiafrifol yw ei fod mewn cymaint o beryg cael ei ddifodi, fel bod raid i'w gynheiliaid gyfaddawdu rhywfaint trwy greu sylfaen o ddeunydd cydymffurfiol 'er mwyn cadw'r iaith yn fyw' cyn y gall fforddio lleiafswm o ddeunydd cwestiyngar anghydffurfiol sy'n mynd i wneud yr iaith yn werht byw trwyddi.