Anghydffurfwyr pybyr oedd y rhan fwyaf o'r ymfudwyr o Gymru, a buan yr aeth y gwahanol enwadau ati i godi capeli a fyddai'n ganolfannau i'w gweithgareddau.
Hyd yn oed os yw'r syniad poblogaidd fod pedwar o bob pump o'r Cymry yn Anghydffurfwyr erbyn ail hanner y ganrif ddiwethaf yn gorsymleiddio'r sefyllfa, does dim amheuaeth nad oedd yna deimlad cryf ymysg y mwyafrif fod grym Eglwys Loegr yn rhywbeth y dylid ei wrthwynebu.
Un rheswm dros gefnogaeth Burgess i'r Gymraeg oedd fod yr Anghydffurfwyr, a'r Methodistiaid yn enwedig, wedi ennill tir sylweddol yn ei esgobaeth yn ystod y ddeunawfed ganrif.
Cyfeiria Gwyn A.Williams at anghydffurfwyr radicalaidd gogledd Morgannwg yn niwedd y ddeunawfed ganrif a ddylanwadodd mor drwm ar hanes cynnar Merthyr Tudful.
Roedd y gohebydd di-enw yn eglwyswr a Thori digymrodedd a'i holl bwrpas oedd rhwystro Datgysylltiad yr Eglwys a dadlau hawliau'r tirfeddianwyr ar draul Anghydffurfwyr, Rhyddfrydwyr, Cenedlaetholwyr, Tenantiaid a'r Wasg Gymraeg - yn enwedig Baner Thomas Gee.
Bu'n ddigon ffodus i gael teithio ar long y Capten Morfa Williams o Gaernarfon - un o Anghydffurfwyr selocaf y dref honno - a hwyliai o'r Traeth Mawr, a chael gofal caredig y Capten a'i briod gydol y siwrnai hir.
Gall y darllenydd weld fod llawer o'r pethau annymunol a awgrymid gynt am Theophilus yn codi am fod Anghydffurfwyr a Radicaliaid wedi creu myth a phropaganda anffafriol am yr Eglwys yn y ddeunawfed ganrif.
Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg dechreuodd capeli'r Anghydffurfwyr ymddangos ym mhob man ar hyd a lled y wlad, ac apeliai neges y pregethwyr grymus yn arw at bobl Cymru.
Er bod carfanau yng Nghymru yn erbyn y Rhyfel, fel yr anghydffurfwyr a oedd yn ymfalchïo yn nhraddodiad heddychlon Henry Richard, a ddywedodd fod 'pob rhyfel yn groes i ysbryd Crist', ffafriol at ei gilydd oedd yr alwad am wirfoddolwyr.