Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anghydfod

anghydfod

Ar yr wyneb stori yw am ddieithryn sy'n dod i godi ei babell mewn pentref bychan a'r holl anghydfod mae hynny'n ei achosi ymhlith y trigolion.

Ymfalchlodd yn y ffaith nad oedd ef wedi pleidio ymdrechion gwasg Llundain i enllibio pobl Cymru yn ystod yr anghydfod.

Hawdd deall ei dristwch o gofio y cyfoeth profiadau oedd ar gael i lenorion mewn diwydiant wedi ei lethu gan streiciau, anghydfod, brawdgarwch ac ymwneud pobl â'i gilydd mewn amgylchiadau a esgorai ar arwriaeth arbennig.

Parhau a wnâi'r anghydfod yn y Brifysgol.

hynny yw, pe codai anghydfod rhwng gwlad a gwlad yna disgwylid i'r ddwy ohonynt ofyn i rhyw wlad a oedd yn gyfeillgar â'r ddwy ohonynt i'w cymodi a'u hatal rhag mynd i ryfel.

Nid oes amheuaeth nad yw'r duedd i 'feddwl yn gam' yn parhau i'n blino ni fel cenedl heddiw, a bod hynny nid yn unig yn bygwth ffyniant a pharhad yr iaith Gymraeg, ond hefyd yn creu rhwyg ac anghydfod yn ein plith.

Blwyddyn o anghydfod diwydiannol gyda 200,000 ar streic, a'r Heddlu, hyd yn oed, yn mynd ar streic, a'r faner goch yn hedfan yn Glasgow.

Arwydd o'r deffroad newydd oedd Streic Chwarel y Penrhyn ym Methesda ar droad y ganrif, anghydfod a oedd yn seiliedig ar ddymuniad y chwarelwyr i gael undeb effeithiol i amddiffyn eu hawliau, a gwrthwynebiad Ail Farwn y Penrhyn i'r dyhead hwnnw.

Dengys Wynn hyn eto wrth drafod dyfodiad Maredudd o Grug gyda'i deulu i Eifionydd a oedd yn llawn anniddigrwydd ac anghydfod tylwythol.

Craidd yr anghydfod boneddigaidd hwn oedd ymlyniad y ddeuddyn wrth wahanol syniadau am natur awdurdod.

Ni wnaed hyn ond nid oes ychwaith unrhyw waith pellach o gwblhau'r wal wedi ei wneud, efallai oherwydd bod anghydfod wedi codi ynglŷn â pherchen-ogaeth tir.

Yn rhifyn mis Ebrill o'r Seren Ogleddol cyhoeddwyd nodyn yn cyfeirio at anghydfod yn nhref Caernarfon a fyddai'n arwain at ymadawiad disymwth allanwr arall, Josiah Thomas Jones, o'r dref.