Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anghydweld

anghydweld

Mem yma ddeg o'r gloch ac yn dweud bod rhaid i mi ffonio Elsie a dweud wrthi am newid ein twrn ac yn ychwanegu ei bod hi wedi syrffedu ar y ddwy Saesnes cyn i ni anghydweld ynglŷn â rhyfel y Falklands; gofyn iddi geisio bod yn rhesymol.

Ond yr oedd tipyn o anghydweld rhwng y De a'r Gogledd (fel y bu am dair cenhedlaeth) ynglŷn a'r man cymwys i leolir athrofa.

Yr oedd achosion eraill tros y rhwyg hefyd, fel anghydweld athrawiaethol rhwng Harris a Rowland a chred Harris fod Madam Sydney Griffith yn broffwydes.

Yn 'Atebiad y Golygydd i Lythyr Mr Saunders Lewis' yn yr un rhifyn cydnabu Gruffydd fodolaeth traddodiad ond fe'i cafodd ei hun yn anghydweld â diffiniad Saunders Lewis ohono.

Dan arweiniad y ddau gyntaf bu llawer o drafod ac anghydweld.

Mae'n cymryd mwy na rhyw ychydig o anghydweld i dramgwyddo dyn fel Breiddyn.

Digwyddiad cyffredin oedd gweld un o'r gwarchodwyr Koreaidd yn anghydweld â'r Nipon y gweithiai iddo.

Un golofn yn cynnwys ymadroddion yr oeddwn yn gwbl hapus a'r ffordd y cawsant eu trin; colofn arall o driniaeth dderbyniol ond y gellid fod wedi ychwanegu ati a thrydedd colofn gydag ymadroddion yr oeddwn yn anghydweld a'r driniaeth ohonynt.

Mi fydd mwy o anghydweld os ydy Henry yn cael ei ddymuniad, sef mynd â hyfforddwr newydd Lloegr, Andy Robinson, gyda fo i Awstralia.

Yr oedd nifer yn eu plith yng nghylch Northampton a ymawyddai am ddymchwelyd y drefn esgobyddol ac yr oedd perygl gwirioneddol i'r hyn a fu hyd yma'n anghydweld y tu mewn i gorlan yr Eglwys droi'n rhwyg a yrrai rai i ymneilltuo ohoni.