Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anghyfarwydd

anghyfarwydd

Yn sicr nid oes modd gwadu fod rhai o'r enwau ar y cryno ddisgiau hyn yn anghyfarwydd ond, er hynny, mae'r label wedi llwyddo hyd yma i ryddhau amrywiaeth eang o senglau.

Os oedd y dorf yn ffyrnig, yna ffars a gafwyd yn y Cyngor ei hun wrth i'r cynghorwyr weiddi ar draws ei gilydd ac i'r offer cyfieithu anghyfarwydd gael ei ddefnyddio am y tro cyntaf fe ymddengys.

Gallwn hefyd fanylu ar ddiweddglo sawl stori lle mae'r tro yn un anghyfarwydd.

Wrth foduro trwy Fethel, awgrymodd ef fy mod yn gyrru at y ffordd newydd ac anelu tua Bangor o gyfeiriad Castell Penrhyn, ffordd bur anghyfarwydd i mi.

Ar ôl ymbalfalu am y switsh lectrig mewn ystafell anghyfarwydd, gwelais ei bod yn hanner awr wedi dau yn y bore a meddyliais fod rhywun yn siwr o fod yn chwarae tric go wael arnaf.

Mae byd y laser cyflwr solid yn llawn o elfennau anghyfarwydd iawn - megis neodymiwm, yttriwm, gadoliniwm ac erbiwm.

erwau ac erwau o gynefin arbennig ac yng nghanol yr unigeddau - i'w weld o bobman y 'tþ ysbryd' i'r anghyfarwydd, neu Wylfa Hiraethog i'r astudiwr mapiau neu Plas Pren i'r lleol...

Roedd llygaid Bedwyr yn agored led y pen wrth iddo ryfeddu at y golygfeydd anghyfarwydd.

Ond, ac yntau'n un o dras amaethyddol ac, o ran anian, yn gredwr mewn datblygiad a chynnydd, mae ei adroddiadau hefyd yn taflu goleuni ar America'r wlad fawr, flaengar, gyda'i diwydiannau cotwm ac olew, ei ffatri%oedd caws a'i bwydydd anghyfarwydd; roedd hefyd yn anelu at roi gwybod i'r Cymry gartre' am fywyd eu cyd-wladwyr a ymfudodd tros yr Iwerydd.

Y mae Angharad Price, fodd bynnag, yn cyfyngu ei thrafodaeth hi i rai sydd gyfuwch a hi ei hun o ran ysgolheictod a dysg gyda'i harddull, mae gen i ofn, yn academaidd anodd a thrymlwythog o derminoleg anghyfarwydd.

Efallai ei fod yn brofiad cyffredin i rai anghyfarwydd yn gwneud peth o'r fath.

Poenau a phleserau serch oedd byrdwn yr udo a'r cwafrio a swniai'n rhyfedd iawn i glustiau anghyfarwydd Hadad, er i'r miwsig dynnu ambell Alaah cymeradwyol o enau rhai o'r Senwsi.

Roedd chwaraewyr Cymru, yn eu lliwiau anghyfarwydd, yn ymwybodol y byddai'r gêm brynhawn Sadwrn yn gyfle i hawlio lle yn y tîm i wynebu De Affrica ddydd Sul nesaf.

Dechreuai holl sesiynau'r þyl gyda chyfres o logos mewn du a gwyn trawiadol - y rhain yn cynrychioli'r noddwyr - a dechrau In Suburbia gan y Petties (The Pet Shop Boys i'r anghyfarwydd).

Yr oedd diddordeb yn yr Oesoedd Canol wedi ei adnewyddu ac wedi lledaenu, ac yr oedd agweddau anghyfarwydd yr Oesoedd hynny'n tynnu mwy a mwy o sylw.

Rhyfeddu fod y person hwnnw'n cribo'i wallt mewn ffordd arbennig, yn siarad ag acen ddieithr, yn darllen llyfrau anghyfarwydd, yn gwneud coffi mewn ffordd wahanol...

Ymhlith enwau cyfarwydd fel Jess, Geraint Lovgreen a Mojo ceir rhai mwy anghyfarwydd megis Wil a'i Wallgofion a'r Beganifs!

Fe fydd y chwaraewr anghyfarwydd yn aml - yn ceisio ymosod ar Frenin ei wrthwynebydd o'r cychwyn cyntaf ac yn barod i aberthu darnau bach a mawr i gyrraedd ei amcan.

Yr oedd cymysgedd o draciau o'r tair albym, yn ogystal â chân neu ddwy sydd hyd yma yn anghyfarwydd.

Felly, nid yw'r prinder dylanwad clasurol yng ngweithiau'r beirdd Cymraeg yn dangos o reidrwydd iddynt fod yn anghyfarwydd â'r clasuron, neu yn elyniaethus iddynt; gallai olygu yn unig nad oeddynt yn teimlo'r angen i'w dynwared.

Gallai un anghyfarwydd â'r grefft synied bod y saer yn gwastraffu ei amser gan mor ychydig o gynnydd a datblygiad a ellid ei ganfod.