Golygfa anghyffredin oedd a barai i'm dyweddi deimlo ei fod yn edrych ar olygfa o'r Canol Oesoedd.
Dridiau cyn iddo gychwyn derbyniodd Hector lythyr, rhyw brofiad anghyffredin yn ei hanes llwm.
'Mae hynny'n bur anghyffredin.'
Mae'r cyfeiriadau yn amrywio o'r cyffredin i'r anghyffredin o'r disgwyliedig i'r annisgwyl.
Doedd hi ddim yn beth anghyffredin darganfod cyrff pedwar neu bump o ddynion y pentre' ar ei rhiniog y bore wedyn.
Diolchais i Dduw am y ddau brofiad anghyffredin a gawswn, gan wybod na fyddai "ond unwaith prin i'w dyfod hwy." Daeth trydydd ymweliad gan golomen wen mewn breuddwyd neu weledigaeth.
Soniodd Syr Thomas Parry-Williams wrthyf un tro i gasgliad cyfoethog anghyffredin o lyfrau prin gyrraedd siop Galloway.
Euog, ie, - ond yr oedd y cosbau ysgafnach a ddyfarnai'r llysoedd mewn achosion fel hyn yn adlewyrchu'r teimlad fod yr euog o dan bwysau teimladol anghyffredin.
Y mae, yn ddios, yn ddyn anghyffredin.
Diwrnod anghyffredin.
Plant anghyffredin
Bu'r cynllun newydd yn llwyddiant anghyffredin gan i bedwar ar hugain o aelodau newydd o gylch Glasfryn ymuno â'r Ysgol Sul.
Felly cafodd mwy nag un llecyn dymunol yng Nghymru yr enw anghyffredin hwn.
I bawb arall, mae Cymru'n ennill wedi dod yn beth mor anghyffredin y dyddiau hyn, fel mai'r gorau y gall neb ei ddisgwyl erbyn hyn yw peidio a cholli.
Weithiau mae digwyd- diadau anghyffredin yn effeithio ar liwiau'r awyr.
Yr oedd yn Sarah Owen, meddai ef, 'ryw ddefnydd anghyffredin', nid yn unig yn gorfforol - cerddodd bedair milltir a deugain un diwrnod gwresog gan gario plentyn ar ei braich y rhan fwyaf o'r ffordd - eithr hefyd yn feddyliol, oblegid er ei bod yn anllythrennog, yr oedd ganddi gof cryf a chariai lawer o lenyddiaeth arno.
Nis peth anghyffredin oedd boddi gwrachod.
Gwn fod un o chwiorydd tad fy mam yn briod a gwr o'r enw Pearson ac iddynt fynd i fyw yn Heol Jwbili, Cwmaman, Aberdar, lle yr oedd Mr Pearson yn mwynhau tipyn o fri lleol ar bwys ei allu anghyffredin i dyfu rhosynnau hyfryd.
Pan ddechreuais ysgrifennu "Lloffion" i'r "Genedl" dechreuodd Ioan Brothen ymddiddori'n anghyffredin ynof, oherwydd fy nawn, meddai ef, i "ddarganfod ffeithiau newydd am y plwy a'r wlad".
(ii) Ymdrin â phob cais cynllunio unigol sydd yn effeithio ar yr holl Ddosbarth, neu ran eang o'r Dosbarth, neu sydd mewn unrhyw agwedd arall mor anghyffredin nes eu bod yn haeddu sylw'r Cyngor.
Dim byd yn anghyffredin yn hynny a synnwn i ddim clywed fod aelodau o Blaid Cymru yn rhegi hefyd.
Gair Cymraeg yn golygu 'taer ddymuniad, eiddgarwch' sydd bellach mi gredaf yn bur anghyffredin yw dihewyd.
Mae puteindra rheolaidd yn anghyffredin a hefyd anffyddlondeb priodasol; ond colli diweirdeb cyn priodi (yn anffodus, gwarth y Dywysogaeth) yw'r norm yn hytrach na'r eithriad.
Meddai ar rym penderfyniad anghyffredin iawn, a dysgodd gan David Rees, 'Y Cynhyrfwr' o Lanelli, nad oedd dim daionus yn 'annichonadwy' .
Ond yma mae'r meirw yn eu 'parlyrau perl', a'r marwol arbennig hwn, yn holl addewid ei ddisgleirdeb, ynghladd mewn erw anghyffredin iawn na ddichon i'r byw byth ymweld â hi.
Sy'n beth ychydig yn anghyffredin yn ty ni.
Roedd Capten Lewis yn chwaraewr gwyddbwyll medrus anghyffredin, a byddai ef a Chapten fy nghatrawd i yn chwarae'i gilydd ambell dro.
Ni chymerodd Ali arno fod fawr o ddim anghyffredin wedi digwydd.
Ond, mynegodd rhai o drigolion Carneddi eu pryderon ynglŷn a'r cynllun wrth y Llais, gan ddweud eu bod nhw'n poeni y bydd y tai ym Methesda i gyd yn edrych yr un fath yn y dyfodol, ac y bydd nodweddion hanesyddol diddorol, fel ffenestri anghyffredin, wedi mynd ar goll.
Gwn i'm mam gynnig enw 'crand' ar ei mab a gwn ei bod wedi bwriadu rhoi'r enw Merlin imi gydag enw anghyffredin arall.
Dywedir nad oedd hi ddim yn beth anghyffredin yn ystod y briodas i Harris ddiflannu o bryd i'w gilydd ar feddwad.
Ym marn yr adolygydd, gwendid dramatig oedd diriaethu syniadau o'r fath ar lwyfan yng Nghymru: 'Y mae eisiau llawer mwy o berswad nag a geir yma ar unrhyw gynulleidfa o wrandawyr fod rhinwedd yn y balchder aristocrataidd.' Proffwydodd, er hynny, fod y ddrama yn dynodi 'cam yn nhyfiant meddwl anghyffredin iawn, fel y caiff Cymru weled eto.' Yr oed y pegynnu rhwng Gruffydd a Lewis yn amlwg.
'Does dim byd anghyffredin wedi digwydd .
Roedd hamdden i wneud rhywbeth felly yng Nghymru bryd hynny ac yn Iwerddon hyd heddiw, ni fyddai hynny'n beth anghyffredin.
Wedi bwlch mor hir, credaf mai doeth ar ôl hirlwm felly yw bwrw golwg yn ôl dros y misoedd a'u digwyddiadau anghyffredin yn bennaf oherwydd y tywydd anhymorol gawsom yn hytrach na chyfyngu i un pwnc.
Dyna dair cenhedlaeth wedi edrych ar ol yr un capel (peth pur anghyffredin ynte?) Yn y ty uchaf un fe gofiaf ddwy chwaer yn byw.
Gŵr cyffredin, gonest, dewr - gyda'r gallu anghyffredin wrth adrodd ei hanes trist i wneud inni sylweddoli fod gobaith i ddynoliaeth, nid drwy gasineb, ond drwy Gariad.
Yno rhestrir cystadlaethau ar gyfer pedwar ar ddeg o wahanol fathau o ddefaid a darddodd o Gymru - rhai anghyffredin fel y Defaid Torddu a'r Defaid Balwen ymhlith rhai cyffredin megis Defaid Mynydd Cymreig.
Taniwyd y wreichionen gyntaf ym Mhwll Ela/ i ger Pen-y-graig, yn y Rhondda, pan gaewyd y glowyr allan gan Gwmni'r Cambrian a'i bennaeth DA Thomas (cyn-Aelod Seneddol o Ryddfrydwr), wedi i'r dynion fynnu rhagor o arian am weithio mewn 'mannau anghyffredin'.
Yn wir yr oedd yn gymeriad anghyffredin yng nghefn gwlad Cymru yn y cyfnod hwn, yn radical o'r rheng flaenaf ac yn sosialydd o'r un garfan a William Morris.
Mae cryn debygrwydd rhyngddynt, ac nid yw'n anghyffredin i'r naill gael ei gamgymryd am y llall.
Bu angerdd anghyffredin yn yr oedfa ddydd Sul fore'r Nadolig yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd ym Mryncir.
Morris Lewis yrfa ddiddorol a chyffrous yn ei ddewis waith ac yn siaradwr Cymraeg yn oedd o frethyn gweddol anghyffredin fel swyddog carchar.
Teulu nodedig ac anghyffredin oedd teulu Sulien; roedd ei feibion Rhigyfarch, Arthen, Daniel ac Ieuan yn ysgolheigion o radd uchel.
"Cyfoethog anghyffredin" - dyna'r disgrifiad priodol o'r llyfrau a'r hen newyddiaduron hynny.
A siawns nad y'w ffaith ei bod hi wedi medru prentisio'i dau fachgen yn grefftwyr, ynddi'i hun yn profi fod 'rhyw ddefnydd anghyffredin' yn Sarah Owen.
Nid anghyffredin oedd gweld ysgarmes rhwng y Koreaid a'r Siapaneaid, a hwythau wedyn yn dial arnom ni, drueiniaid diniwed !
ond yr hyn sy'n gwneud y siop yn dra anghyffredin erbyn heddiw yw y silffoedd dan bwysau poteli o faco.