Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anghyfreithlon

anghyfreithlon

Ond cyn i'r ddirprwyaeth adael Aberystwyth 'roedd newyddion drwg wedi ein cyrraedd, sef bod y Weinyddiaeth Addysg wedi gwrthod caniata/ u i'r Awdurdodau Addysg wario arian y trethdalwyr i roi cymhorthdal i awduron na chyhoeddwyr, nac i gyhoeddi ein hunain, am fod y cyfan hyn yn anghyfreithlon!

Brwydrwn ymlaen nes cael Deddf Iaith Gyflawn fydd yn gwneud pob rhagfarnu'n erbyn y Gymraeg yn anghyfreithlon.

Dyna'r rheswm fod siopau Tripoli mor fach; maen nhw fel rhesi o focsys esgidiau am ei bod yn anghyfreithlon i gyflogi cynorthwywyr, ac o'r herwydd dyw'r perchnogion ddim yn medru ehangu.

Felly ar y daith hon nid oeddem i gludo unrhyw beth anghyfreithlon i mewn i'r wlad gyda ni.

'Mae'r dillad isa yna sgynnoch chi amdanoch yn anghyfreithlon,' meddai PC Llong.

Er bod yr awdurdod yn hyderus eu bod wedi clirio'r rhan fwya o asbestos, maen nhw'n cyfadde y gall rhywun fod wedi dadlwytho'r deunydd yn anghyfreithlon ar y safle.

Wedi'r cwbl mae'n bosibl mai hwy sydd debycaf o wneud yr elw mwyaf o'r farchnad anghyfreithlon yma.

Gwelwyd yn fuan bod y rhai a oedd yn defnyddio cyffuriau mewn modd anghyfreithlon, gan rannu offer chwistrellu, yn fwy tebygol o ddioddef; hefyd y rhai, o blith y ddau ryw, a oedd yn anllad ac yn mwynhau rhyw gyda nifer o bartneriaid o'r naill ryw neu'r llall.

Cynhyrchwyd hanes pwerus o gariad anghyfreithlon yn erbyn cefndir o gymuned glos, The Passion, ar ran BBC Cymru gan First Choice gyda Gina McKee (wyneb cyfarwydd o Our Friends in the North). Cafwyd edmygaeth gyffredinol i'r cynhyrchiad cymhellol hwn.

Bydd clwb Chesterfield, sydd ar frig y Drydedd Adran, yn clywed heddiw beth fydd eu tynged yn dilyn ensyniadau yn ymwneud â thaliadau anghyfreithlon.

Y mae uchafswm o ddwy fil o bunnau o gosb am bob anifail y ceir hormonau anghyfreithlon yn ei gyfansoddiad.

Serch hynny, tebyg iawn y byddai'r arferiad yn anghyfreithlon hwnnw.

Dyfynnwyd tystiolaeth nifer gan gynnwys y Parchedig Edward Williams, gweinidog yr Annibynwyr yn Llanfair-ym-Muallt a gyfeiriodd at blant anghyfreithlon ym Mrycheiniog a chyfathrach rywiol ymhlith gweision a morwynion ffermydd.

Yn ystod yr helyntion diweddar yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin meddai un o'r cynghorwyr ei bod hi'n 'anghyfreithlon' cynnal cyfarfodydd cabinet yn Gymraeg.

Mae croeso arbennig i gystadleuwyr a hwyliodd yn anghyfreithlon o'r Unol Daleithiau.

Yn y cyfamser, roedd MasCanosa yn pwyso ar Gyngres yr Unol Daleithiau i'w gwneud hi'n anghyfreithlon i is-gwmnËau Americanaidd mewn gwledydd tramor fasnachu â Cuba.

Mae capten tîm Libanus, Darren Maroon, wedi ei gyhuddo o fod ag olion cyffur anghyfreithlon yn ei ddwr.

Fe'u beirniadwyd yn arbennig am eu hanniweirdeb a'u llacrwydd moesau, am esgor ar blant anghyfreithlon, ac am eu hanonestrwydd, eu twyll a'u diota.

Ac y mae lladd yn anghyfreithlon.

Rwy'n credu bod canran y plant anghyfreithlon ym Môn (heblaw am un ardal arall, ac mae honno yng Nghymru) yn uwch nag mewn un sir arall yn y deyrnas.

Sgoriodd Middlesex 185 am naw ond fe fowliodd bowlwyr Morgannwg 14 o belennau anghyfreithlon.

Byddai pysgotwyr yr ynys yn peryglu eu bywydau mewn corwyntoedd a stormydd enbyd, ac yn y ddeunawfed ganrif cyrchai smyglwyr i lawer traethell unig ac anghysbell i lanio eu nwyddau anghyfreithlon.

Ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Cyffuriau ym mis Tachwedd, creodd yr adran Addysg y gyfres Know Your Poison, sydd wedi derbyn canmoliaeth o sawl ffynhonnell ers hynny am ei thriniaeth realistig o gyffuriau, cyfreithlon ac anghyfreithlon.

Yn y cyfamser, er ein bod ni'n gwybod nad oeddem yn cario dim anghyfreithlon i mewn, 'roeddem yn chwysu wrth feddwl beth allent wneud â ni.

Mae'n bosibl prynu rhai o'r ffilmiau diweddaraf, copïau anghyfreithlon o ffilmiau yn Hong Kong ydy'r rhan fwyaf.