Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anghysbell

anghysbell

Os deuai bwthyn anghysbell i'r golwg a hen wraig, neu gwr a gwraig oedrannus yn byw ynddo, fe fyddem yn canu tu allan a symud ymlaen heb aros am ateb.

Yr oedd mewn lle anghysbell ac nid oedd neb yn mynd ar hyd y ffordd drol drwy'r coed tuag ato.

Dyma'r unig sefydliad Undodaidd y gwyddai ambell Undodwr anghysbell amdano.

Wrth drafod ei ffawd canfyddir yn yr History adwaith Maredudd i chwilfrydedd ei garennydd pan symudodd i'r cwmwd anghysbell hwnnw.

Allwn i ddim dyfalu sut y cyrhaeddodd rhai ohonynt eu ffau anghysbell, heb sôn am allu uniaethu gyda'r arswyd a oedd wedi eu cymell i fentro.

Felly, pan sylweddolodd yn hwyr un noson iddo adael ei waled yn llawn o arian ar ben postyn llidiart buarth tyddyn anghysbell yng nghyffiniau Llynnoedd Teifi ar noson o eira ar drothwy'r Nadolig doedd ganddo fe ddim dewis.

Felly wrth fynd ati i baentio arwyddion Give Way gyda'r gair Ildiwch cofiwch fod ei arwyddocâd yn ehangach o lawer nag un gair ar arwydd anghysbell.

Mae Menna Elfyn wedi teithio dros y byd yn darllen ei gwaith i gynulleidfaoedd; mae'r llefydd anghysbell y mae hi wedi ymweld â hwy a'r bobl y mae hi wedi eu cyfarfod yn ychwanegu at ei gwaith.

Anghofia' i fyth ychwaith y wefr yn un o wersylloedd mwyaf anghysbell y Cwrdiaid o weld milwyr ifainc yn rhoi eu gynnau ar eu cefnau ac yn cario'r hen, y musgrell, y claf, gwragedd beichiog a babanod i hofrenyddion i'w cludo adref.

Doedd neb call eisiau byw yn y fath lefydd gwyllt ac anghysbell.

Fe gafwyd adroddiadau o Sweden i geisio asesu damcaniaeth Phil Williams, gwyddonydd rhyngwladol ac aelod blaenllaw o Blaid Cymru, fod tref anghysbell yno yn elwa mwy dan bolisi rhanbarthol Sweden nag yr oedd ei dref enedigol, Bargoed, yn ei wneud dan bolisi rhanbarthol gwledydd Prydain.

Byddai pysgotwyr yr ynys yn peryglu eu bywydau mewn corwyntoedd a stormydd enbyd, ac yn y ddeunawfed ganrif cyrchai smyglwyr i lawer traethell unig ac anghysbell i lanio eu nwyddau anghyfreithlon.