Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anghyson

anghyson

Y gobaith yw gallu mynd ar ôl hysbysebwyr er mwyn cael ychydig mwy o incwm, a cheisio cynyddu nifer y tanysgrifwyr, sydd wedi gostwng yn ddiweddar oherwydd y cyhoeddi anghyson.

Mae'r ddadl hon yn un gref, ond buaswn i'n dadlau bod y Llywodraeth, os oedd hi'n chwilio am ateb i broblemau cymdeithasol Cymru, wedi gorffen trwy gael rhywbeth gwahanol a hollol anghyson â'i theithi meddwl.

Bod 'daliad' a 'llithren' yn gwbl afreolaidd, am eu bod yn hollol anghyson ag Egwyddor a Rheol Fydryddol "Mesurau Cerdd Dant" a "Mesurau Cerdd Dafod" yn eu cyfanrwydd.

Un peth a nodwedda cymdeithasau o'r fath yma yn Rhydychen ydyw mai rhai bron a thorri ar eu traws am gael lle yn aelodau yn unig a dderbynnir i mewn; felly ni cheir lawer o aelodau cloff anghyson eu hymweliad.

ar derfyn y cyfarfod cefnogodd y gynulleidfa'r datganiad hwn : gan gredu bod rhyfel yn anghyson ag ysbryd cristnogaeth ac yn dinistrio lles gorau dynoliaeth mae'r cyfarfod hwn yn awyddus i ddatgan ei gefnogaeth i'r ymdrechion a wneir ar hyn o bryd gan y gymdeithas heddwch i ledaenu syniadau cywir am y drwg a wneir gan ryfel...

Cafwyd bod camweinyddu wedi digwydd oherwydd bod y penderfyniad yn anghyson, yn fympwyol ac yn wrthnysig.

Ni chofiaf weld y geiriau dadleuol uchod yn eu cyd-destun gwreiddiol, ond, os nad wyf yn camgymryd, yr hyn yr oedd gan Dr T Gwynn Jones yn ei feddwl oedd fod pwnc yr iaith yn un mor llosg nes ysgogi rhai Cymry i feddwl ac i weithredu'n gam, hynny yw, yn anghyson â'r egwyddorion hynny sy'n sylfaen i ffyniant cymdeithas wâr.

Fe allwn ni'r Cymry Cymraeg, bawb ohonom, fod yn euog o'r cyhuddiad hwn i'r graddau y bo ein harfer yn anghyson â'n proffes.

Byddaf yn bendithio Ellis Wynne am y sywaeth yna, er ei fod yn lawn mor anghyson â John Thomas.