Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anghywir

anghywir

Gallai'r ysgub, meddai'r gwiddon fod yn 'beryglus yn y dwylo anghywir oherwydd y nerth sydd ynddi.' Ymddengys i'r helynt achosi cryn bryder i rai o drigolion y pentref a dywedir bod ambell un wedi mynd cyn belled â gosod y Beibl yn ffenestri eu cartrefi er mwyn dadwneud unrhyw niwed.

Efallai fy mod yn anghywir ond fe dybiais fod y cyflwyniad wedi'i wneud i gyflwyno neges - ymddiheuriad, efallai, am fod y wlad wedi creu'r fath elyniaeth.

Ac ar yr eiliad nesaf, fel edrych i mewn i ddwy ogof a'r haul yn eu pen draw yn mynd rownd y ddaear yn ôl astonomeg y Dyrchafael a'r peth hwnnw a elwir mor chwerthinllyd o anghywir yn Gredo'r Apostolion.

A yw'r briodas honno yn anghywir?

Er nad ydw i'n ddoctor rwyn credu ei bod yr un mor rhesymol tybio y gallair dewis anghywir o lyfr wneud dirfawr ddrwg i rywun hefyd.

Roedd John Plumtree, hyfforddwr Clwb Rygbi Abertawe, yn anghywir pan ddwedodd fod Rygbir Undeb wedi mynd yn soft.

Ar ran yr Ysgrifenyddiaeth mynegodd bryder fod y manylion cyllidol a gyflwynwyd i C.DDC yn anghyflawn ac anghywir a byddai'n anodd i geisio manylu ar y wybodaeth ymhellach.

'Rydan ni wedi dwad i'r bae anghywir,' meddai'r capten, a hyder dyn a wyddai ei fod yn iawn fel mêl yn ei lais.

Roedd pwrpas ei gwneud hi yn anghywir.

Gall ildio i demtasiwn, a gall trwy ei ddallineb ei hun ddilyn llwybr anghywir, gan fethu a chanfod beth yw arweiniad Duw ar ei gyfer.

Fel rhagolygon tywydd, mae'n ddiwerth mewn deuddydd, os nad yn anghywir cyn hynny.

Unwaith eto, croesawn well dull o gofnodi digwyddiadau, ond teimlwn bod pobl yn mynd ati o'r cyfeiriad anghywir.

Ond er haeru mawredd y peryglon o'r tu allan i'r Eglwys cyfrifai'r peryglon yn fwy oddi mewn i'r Eglwys mewn syniadau anghywir--fel meudwyaeth a syniadau diwinyddol fel Apocalyptiaeth, Ariaeth a Milenariaeth.

mae'r lliw coch yn addas iawn i ti ar hyn o bryd, ac yn gwneud i ti edrych yn dda! Gwnan siwr dy fod tin gwybod ble tin mynd oherwydd fe all tro i'r cyfeiriad anghywir dy fwrw di oddi ar dy echel am amser hir.

(Pe bawn i yn anghywir, buasai Mr Hulse wedi sgrifennu i gywiro'r gwall: ni wnaeth hynny, felly mae'n rhaid fy mod i'n iawn.)

Gall dosraniad anghywir o'r argost effeithio ar bolisi prisio'r busnes, a bod yn niweidiol pan yw'n gwestiwn o gynnig pris yn erbyn cystadleuaeth.

Yr oedd yn bosibl, wrth gwrs, fod y dyn dysgedig hefyd wedi cael profiad mewnol, ond yr oedd hyn yn annhebyg, gan fod yr offeiriadaeth yn bennaf yn broffesiwn - sef ffordd o ennill bywiolaeth - a ddenai bobl am y rhesymau anghywir, felly.

Erbyn yr ail ganrif ar bymtheg roedd y dystiolaeth fod y model hwn yn anghywir yn gryf iawn, ac fe'i disodlwyd gan fodel a osodai'r haul yng nghanol y bydysawd.

'Smo i'n cytuno bod hyn yn rhoi negeseuon anghywir.

Y mae hwn yn un achlysur y byddain well gan bawb fod wedi cael eu profin anghywir.

Tybiais mai pwrpas y pedwar gwersyll oedd cymell y plant i chwarae, canu a dawnsio i gyfeiliant 'Y Llyfr Gwyrdd' - ond roeddwn yn gwbl anghywir.

Gyda Iechyd Da (Bracan/S4C) fi sy'n cychwyn yn y lle anghywir gan nad ydwyf wedi gwylio'r cyfresi blaenorol.

Yn anghywir, yn fy marn i.

'Rhaid eich bod yn edrych yn y golofn anghywir.

Nid yw'r BBC yn barod i dderbyn unrhyw gyfrifoldeb o safbwynt unrhyw broblemau neu golledion a achosir gan arsefydlu RealPlayer yn anghywir o unrhyw ffynhonnell.

Wrth gwrs, y mae ystyriaeth arall, sef caniata/ u i'r labordy lleol brosesu a gwneud hynny'n anghywir yn peri i'r criw ffilmio gywiro bai nad yw'n a thrwy hynny, ddinistrio'r cwbl ar ôl y dilyniant cyntaf.

Doeddwn i ddim yn meddwl bod lloches yn lle neis iawn, ond roeddwn i'n gwbl anghywir.

Yn amlach na pheidio rhoddai Powell fwy o groeso i ateb anghywir a oedd yn ffrwyth meddwl neu ddychymyg nag i ateb cywir confensiynol a di-fflach.

Mae'r ymresymiad yn anghywir.

Ond efallai y bydd rywun gystal â fy nghywiro os rwyn anghywir.

Mae'n rhaid diolch hefyd i Gruff Rhys o'r Super Furries. Beth bynnag ydym ni'n ei feddwl am ei honiadau nad yw Mwng yn cael ei chwarae ar Radio Cymru - sy'n gwbwl anghywir gan ein bod yn chwarae caneuon oddi arni yn gyson - roedd hi'n wych i'w weld ar y llwyfan yn derbyn dwy wobr ar ran y Super Furry Animals.

Mae yr amser anghywir i roi gôl bant.

(d) Mae rhai pethau na ddaw arweiniad arbennig ynglŷn â hwy :-'does yna ddim llwybr iawn nac anghywir - mae cynllun Duw yn rhoi mesur o ryddid o'i fewn.

Ta-ta i'r camera a ddaliai, ar dair ffrâm a hanner yr eiliad, yr eiliad yr oedd cydbwysedd rhywun yn y lle anghywir, neu ei ddwylo yn yr awyr, neu ei wyneb yn y mwd.

Fel arfer heddiw y sillafiad anghywir Cemaes a welir amlaf am i bobl dybio fod cysylltiad rhwng yr enw a'r gair maes.

Yn ei lyfr Surgery: your choices, your alternatives, fe rydd Crile nifer o enghreifftiau o driniaethau anghywir yn cael eu gwneud gan lawfeddygon anghymwys ac anfedrus.

I mi roedd yr holl brosiect fel petai wedi cychwyn yn y lle anghywir.

"Efallai y bydd rhai pobol yn dweud, 'os dyna safon iaith ysgolion Cymraeg y De-ddwyrain, byddai'n well hebddyn nhw'." Iddo ef, nid bratiaith yw'r gymysgedd o Gymraeg a Saesneg sy'n cael ei siarad gan bobol ifanc y deffroad iaith, gyda'u cam dreiglo a'u brawddegau 'anghywir'; iddo ef, mae hi'n dafodiaith ynddi ei hun, yn iaith yr oedd actorion amlwg fel Richard Lynch neu Jâms Thomas yn ei siarad pan oedden nhw'n iau.

Roedd unrhyw un a oedd yn honni nad oedd yngynghori wedi digwydd yn anghywir, ac yn dweud celwydd, ychwanegodd.

'Ella 'mod i'n anghywir,' cynigiodd yn betrus, 'ond hyd y gwela i mae cadw'r cyfrifon yma'n mynd i gymryd llawer llai o amser nag yr oedd ych tad yn 'i awgrymu.

Wedi'r cwbl, rheolwr ydach chithau, a sbiwch ar y gwahaniaeth rhyngom ni.' Cyn gynted ag y gwelodd ei wên ddiog, sylweddolodd ei bod wedi dweud y peth anghywir.

Buan iawn y sylweddolodd Denzil a Maureen eu bod wedi priodi am y rheswm anghywir, sef i roi cartre i Gwen, merch Gina, a gadawyd Denzil ar ei ben ei hun unwaith eto ym mis Gorffennaf 1999 pan adawodd Maureen ef.

Mae ganddo rhyw awdurdod i fedru wynebu bywyd yn hyderus, a'r modd i ddirnad rhwng yr hyn sy'n iawn a'r hyn sy'n anghywir.