Yr oedd llawer o bobl hefyd yn mwynhau nofio, pysgota a rhwyfo yn llyn Angkor Wat.
Yn ystod y cyfnod hwn ymestynnai ymerodraeth Angkor o ororau Môr Tsieina yn y dwyrain hyd at Fôr yr India yn y gorllewin.
Angkor oedd yr ymerodraeth a ddaeth i fri ar ddechrau'r nawfed ganrif pan deyrnasai Jayavarnam yr ail a addolid fel duw tra'r oedd eto'n fyw.
Y mae'n ddiamau mai yn nhemlau Angkor y claddwyd eu gweddillion ac y cedwid y cof amdanynt hwy ac am ogoniant eu cyfnod.
Ennill anfarwoldeb Rhyfeddod mwyaf Cambodia inni oedd adfeilion teyrnas Angkor.
Yn Angkor gwelsom olion y diwylliant gogoneddus a flodeuai rhwng y nawfed a'r bymthegfed ganrif ac yna a ddiflannodd yn sydyn.
Amlygwyd arddull newydd wahanol o bensaerniaeth ac o gerflunio yn nhemlau a phlasau Angkor.
Trefnasom gydag un o'r beicwyr ymwthgar i fynd â ni'r diwrnod cyntaf i weld Angkor Wat.
Datgelwyd Angkor yn ystod y ganrif ddiwethaf.
Er i grefydd a chrefft yr India ddylanwadu ar wareiddiad Cambodia, mewn amser tyfodd y gwareiddiad hwn i fod yn arbennig o nodweddiadol o'r genedl ei hun yn Angkor.