Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

angor

angor

Digwyddodd hyn hanner dwsin o weithiau, am nad oedd Jim wedi sylweddoli mai rowlio'r abwyd dros wely'r afon wnâi arbenigwyr Llangollen Fach, ond yr oedd ei fwydyn ef wrth angor blwm ym Mhwll y Bont.

Mintai o longau wedi bwrw angor ger y porthladd.

Yr oedd hyd yn oed y cychod yn cysgu, heb brin blycio wrth yr angor.

Disgrifiwyd y sgwnerau hyn, y Western Ocean Yachts, fel llongau "eithriadol o brydferth, ar lawn hwyl neu wrth angor; yn wir, y rhai prydferthaf yn hanes llongau hwylio%.

Er inni gael ein creu, yng ngeiriau'r Salmydd, 'ychydig is na'r angylion', er inni gael ein cynysgaeddu â meddwl rhyfeddol a doniau nodedig, pobl ydym o gig a gwaed, llestri llawn craciau, yn dyheu beunydd am angor, am gysur a sicrwydd.

rhaid cael angor.

Codwyd angor, ac ymadawyd yn araf.