Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

angylion

angylion

Yr oedd yng nghanol yr anifeiliaid gwylltion, a'r angylion oedd yn gweini arno.

Ond roedd yntau wedi derbyn ers blynyddoedd lawer, heblaw Duw a'i angylion, fod yna ysbryd arall, yn syrthiedig ac yn dywyll aflan, ond yn wir.

Jones (Arglwydd Maelor) yn arwain Noson Lawen, a'r plant fel angylion yn canu ac yn adrodd, a hiwmor a drama amser Lecsiwn - y Neuadd dan ei sang - yn gwrando ac yn heclo pan oedd galw.

A hithau mor dywyll a chanhwyllau'n goleuo, edrychent yn eu lifrai gwynion fel y côr o angylion gynt.

Cofiwch, dydyn ni ddim yn angylion o bell ffordd, ond rydyn ni'n fodlon ac yn barod i drio'n gorau.

Er inni gael ein creu, yng ngeiriau'r Salmydd, 'ychydig is na'r angylion', er inni gael ein cynysgaeddu â meddwl rhyfeddol a doniau nodedig, pobl ydym o gig a gwaed, llestri llawn craciau, yn dyheu beunydd am angor, am gysur a sicrwydd.

Fe'm llyncwyd i fyny Mewn syndod i gyd, Wrth feddwl am angau Iachawdwr y byd; Trysorau o gariad, Trysorau o ras, Na fedr angylion Eu mesur hwy maes.

Nid gormod dywedyd bod y Saint, yn ôl syniadaeth a chredo'r bobl, megis angylion, a phrin y gellid meddwl am na helynt na thrafferth na llafur, na ellid mewn rhyw fodd alw cymorth y Saint ato a hynny'n bur effeithiol.

Wrth ddatgan ein bod yn dod i gyw am gyfnod i ddinas yr angylion sy'n llawn diafoliaid, cafodd Dafydd (y gūr) a finnau gynghorion oedd yn pwyso mwy o lawer na'r cesus!

Roedd y llwyfan wedi troi'n ogof hud a lledrith, lle'r oedd holl gymeriadau hoffus a hardd y Nadolig, yn goed ac adar, tylwyth teg, angylion, cor a Sion Corn ei hun yn ein swyno a chreu naws y tymor gydag amrywiaeth hyfryd, hyd at uchafbwynt y cyfan yn nrama'r Geni.