Ni allai'r ysgwieriaid godi ond ar draul y mân wŷr rhyddion ar y naill law a'r caethion ar y llaw arall (er i rai o'r rheini lwyddo i oresgyn pob anhawster a thyfu'n ysgwieriaid eu hunain).
Ond y mae dau anhawster: yn gyntaf, i ddyfynnu Crwys: 'Prin yw'r arian yn god', ac yn ail, beth a wnawn ag ef, wedi ei brynu ar wahân i ymddeol iddo, efallai?
Os y cewch unrhyw anhawster i ddod o hyd i gyflenwr 'cnau diogel', cysylltwch â'r BSA, The Watermill, Mill Road, Water Eaton, Milton Keynes.
Os cewch anhawster recordio'r rhaglenni hyn, cysylltwch â Cyhoeddiadau Addysg BBC Cymru a gofynnwch am ein gwasanaeth fideo.
Y mae'r gymhareb hon yn osgoi'r anhawster o benderfynu beth yw'r cyfalaf, ac efallai'n ei gwneud hi'n haws i gymharu un busnes â'r llall.
Ond y nef a helpo'r milwyr a geisiai foddio eu chwant trwy gyfathrach â'r merched brodorol, ac o ganlyniad eu cael eu hunain mewn 'anhawster arbennig' ychydig ddyddiau'n ddiweddarach.
Nid oes unrhyw anhawster i gysgu ar ôl ei gymryd.
Yr unig anhawster ynglŷn â'r rheiny oedd nad ydoedd yr Heddlu eto wedi'u dal, ond cwestiwn arall oedd a ddylid eu herlyn am ddwyn y corff pan oedd yn amlwg na wyddent am ei fodolaeth.
Ni fyddai unrhyw anhawster ychwaith i ymestyn y model gwreiddiol i gynnwys marchnad arian a marchnad lafur yn ogystal â marchnad nwyddau.
Pwysodd ar Dik Siw i wneud cais am godi adeilad o ryw fath ar y tir lle'r oedd y Lotments yn awr, a gofalai yntau yr ai'r planiau drwodd heb ddim anhawster.
Roedd yn amlwg y gellid erlyn lladron y car am gymryd y car, nid oedd hwn yn anhawster o gwbl.
Nid ydyw'r anhawster hwn yn debyg o godi mewn system seneddol, yn arbennig pan fo mwyafrif effeithiol gan y llywodraeth.
Dim ond un anhawster allaf i ei weld mewn strategaeth o'r fath - y bydd rhai yn meddwl mai taid y babi ydi William, nid ei dad.
Dysgid elfennau ffurfiol ohoni yn ôl graddfa o anhawster.
Yr anhawster pennaf ynglŷn ag osgoi gwahaniad rhwng y twf yn y cynnyrch gwladol a llinell twf ILI.
A dyma lle mae anhawster sylfaenol yn brigo.
Gwn fod peth anhawster yn codi oherwydd fod Llyfr y Tri Aderyn yn defnyddio tri math o deip ac na ellir atgynhyrchu'r rheini ar deipiadur.
Un anhawster sydd wedi codi dros y blynyddoedd yw priodoldeb y term anghenion arbennig.
Ond yr hyn a'm tarawodd i, a'r tafod yn y boch, oedd: os yw merched sydd yn bwriadu mynd i'r weinidogaeth yn fwy tebyg i ddynion, ac i'r gwrthwyneb, yna beth felly yw'r anhawster ynglyn ag ordeinio gwragedd yn yr Eglwys Anglicanaidd?
'Ond mae rhywbeth y gallwch ei wneud, Ewyrth,' meddai Jonathan gydag anhawster.
Yr ŵyl orau allasai tad fod wedi'i rhoi i'w blant a'u codi yn y gymdeithas orau yn erbyn pob anhawster.
'Anhawster' oedd y Gymraeg, rhwystr i gyfathrebu, gan gadw dynion yn ôl rhag gwybodaeth o'r byd a'r betws.
nid oes unrhyw anhawster gwneud hynny yn y tc ysgrifennu.
Mr Wynne Samuel, os cofiaf yn iawn, a ddaeth ag awgrym gerbron y Pwyllgor, yn cymell y Blaid i fabwysiadu yn bolisi gynllun ar gyfer Cymru o waith arbenigwr yr oedd ef yn ei adnabod; yr oedd y cynllun yn un priodol iawn i Gymru, ac ni chafodd y Pwyllgor anhawster i'w dderbyn.
Hyd yn oed yr adeg honno yr oeddem yn cael anhawster derbyn fod yna rai merched clyfar a rhai merched twp yn union fel ag y mae yna rai bechgyn clyfar a rhai bechgyn twp.
Yr union beth, felly, i greaduriaid fel fi a brofodd anhawster gyda gwaith un sy'n cael ei gydnabod fel llenor o bwys.
'Pa fodd bynnag y dehonglir cystrawen ryfedd llinellau ola'r soned...' yw sylw'r Athro Llywelyn Williams: nid wyf yn bendant sicr beth yw ei anhawster oni lygatynnwyd yr Athro gan y cyd-destun i dybied mai 'cenir' a oedd yma, ac nid ffurf 'amhersonol' geni.
Mewn ardaloedd di-Gymraeg lle ceir anhawster i ddod o hyd i'r cyfle i siarad, yn yr un modd, CYD yw'r mudiad sy'n medru cynnig hyn.
'Heblaw, o dan yr amgylchiada' presennol, ac o barch i hen ddyn 'ch tad pan oedd o, mi fydd yn blesar gin i rowndio dipyn.' Bu cryn anhawster i gael yr hwch i mewn i'r bus o gwbl.
A phan gafodd yr athro achlysur i longyfarch Hector ar ateb i ryw bwnc bach nid oedd terfynau i lawenydd y disgybl newydd, a phan ofynnodd un o'r merched yn y dosbarth i Hector, wedi'r wers, am help a chyfarwydd ar bwynt a barai anhawster iddi, teimlodd yntau, am y tro cyntaf, efallai, ias o'r pleser a ddaw o awdurdod o oleuni cywir ar y broblem.
Does dim i'w wneud ond eu blasu; er y gellid, efallai, atgyfnerthu eu heffaith arnom trwy ddarllen gwaith meistr cyffelyb ar iaith a dychymyg, megis yr hen fardd hebreig hwnnw gynt a barodd i Dduw ateb Job o'r corwynt: 'Ble'r oeddit ti pan oedd sêr y bore i gyd yn llawenhau, a holl feibion Duw yn gorfoleddu?' Ar y llaw arall ni chawn anhawster i amgyffred arwyddocâd y gwrthgyferbyniad awgrymog rhwng 'ymryson' yn nechrau'r pennill a 'murmur' ar ei ddiwedd.