Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anhebyg

anhebyg

Ond, y mae'n ddisgwyliad newydd fod gan y Bwrdd y ddyletswydd i gynghori'r system ar weithredu pob sefydliad addysgol, i'r graddau y mae'n gweithredu cynllun iaith beth bynnag, ac anhebyg y byddai gan y Bwrdd yr amser (sef y staffio) i fedru monitro neu arolygu'r fath bentwr o gynlluniau er mwyn cyflawni'r ddyletswydd statudol yn effeithiol.

Pan anwyd fi roedd dad wrthi'n priddo rhesi tatws ac yn rhoi pricia i ddal y pys -- gweler ei ddyddiadur am 7 Mehefin 1968 -- a phan gyrhaeddodd o'r sbyty'r noson honno roedd mam eisoes wedi dechrau 'ngalw i'n Canaveral Jones (CJ i'm ffrindiau yn y ddau gryd bob ochr i mi). Rwan, roedd hi wedi blino ac ar ôl dadlau tipyn bach fe lwyddodd dad i ddal pen rheswm a chael mam i 'ngalw i'n Arwel (ddim yn anhebyg i Canaveral ar ôl saith awr o epidurals). Dychwelodd dad at ei ei datws a'i bys a phan aeth o i nôl y ddau ohona ni adra o'r sbyty ar y 15ed fe ddigwyddodd sylwi ar y tystysgrif geni.

Fodd bynnag, am nifer o resymau, mae'n anhebyg y bydd nifer o'r cynlluniau hyn yn cael eu cyflawni cyn yr ad-drefnu llywodraeth leol arfaethedig.

VAUGHAN: Mae'n anhebyg fod dyddiau'r protestiadau ar risiau'r Swyddfa Gymreig ar ben, beth bynnag ydi barn Cadeirydd y Bwrdd.