Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anhepgor

anhepgor

Tebyg bod gwrthdaro rhwng unigolion yn anhepgor i'r broses gelfyddydol greadigol.

Yr oedd gwasanaeth cynullydd a allai alw ar ryw gymaint o gymorth ysgrifenyddol a gweinyddol yn anhepgor.

Os dewisodd yr awdur roi lle Pendaran Dyfed i Bwyll, fe all fod y rheswm i'w gael yn ystyr yr enw, sef 'barn, synnwyr, ystyriaeth, dianwadalwch', ansoddau a ystyriai'n anhepgor i lywodraethwr.

Serch hynny, yn amgylchiadau canol y ganrif, roedd sefydlu'r Swyddfa Gymreig yr anhepgor cyntaf i lwyddiant polisi o fagu cyfrifoldeb yng Nghymru am fywyd Cymru.

Mewn ffordd doedd dyn yn disgwyl dim gwell gan bobl yn eu diod, ond fe fyddai sglyfaethdod ar ran blaenoriaid ar dripiau Ysgol Sul a chynghorwyr Sir ar ymweliadau swyddogol yn arfer codi dychryn arno - nid felly y'i magwyd ef i ymddwyn ac roedd o wedi meddwl fod pawb parchus wedi rhannu'r fagwraeth ofalus gafodd ef - ond os oedd pymtheng mlynedd o yrru bws wedi dysgu rhywbeth iddo, roedd o wedi ei ddysgu nad oedd pawb yn rhannu'r safonau uchel o lanweithdra a moesoldeb a gyfrifid mor anhepgor gan ei fam ac yntau.

Daeth yn aelod anhepgor o Senedd a Chyngor y Coleg, a chymerodd ran mewn nifer o ymgyrchoedd yno - ynglŷn â statws y Gymraeg (ymgyrch a'i cleisiodd yn arw), ynglŷn â phrifathrawiaeth y cyn-Brifathro, ynglŷn â phenodiad cofrestrydd newydd; a phan oedd yn Ddeon Cyfadran y Celfyddydau cafodd un ysgarmes enwog ynghylch ad-drefnu.

Byddai hyn yn peryglu nifer o elfennau anhepgor y gwasanaeth addysg bresennol yn y cyfnod statudol:

A hyd yn oed yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, yn y flwyddyn 1952, yn Siarter y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig, er yr holl newid a fu yn agwedd a meddwl arweinwyr addysg a diwylliant, fe ofalwyd peidio ag enwi'r iaith Gymraeg yn gynneddf anhepgor ar reolwr a chadeirydd i Gymru.

I ddechrau, dywed rhai fod cyfnod o ddatblygiad economaidd chwim yn anhepgor ar ôl dinistr rhyfel; a bod hyn, yn enwedig yn Ewrop a Japan, wedi bod yn sbardun canolog i dwf economaidd.

Argyhoeddwyd ef gan ddadansoddiad Murry fod ymwrthod ag uniongrededd yn rhagarweiniad anhepgor i ffydd lwyrach a chywirach.

Oherwydd yr oeddwn yn ddeg ar hugain oed cyn dechrau dysgu Cymraeg o ddifrif, a chan na chefais y fraint o gael fy magu mewn awyrgylch Cymraeg, nid oes gennyf mo'r reddf na'r hyder sy'n anhepgor i un a fynnai arfer iaith yn y modd mwyaf celfydd sydd, sef i wneud cerdd.

Yr oeddynt mor anhepgor yn eu golwg hwy â'r nyrsus eu hunain gan mai eu pwrpas oedd cadw'r milwyr rhag cyfathrachu â'r merched brodorol yr oedd clefydau gwenerol mor gyffredin yn eu mysg.

Y mae'r ysbryd grasol a milwriaethus hwn tuag at anghredinwyr a'r argyhoeddiad fod yr Efengyl yn rhodd amhrisiadwy i'w rhannu â phawb sydd o fewn cyrraedd yn anhepgor onid yw'r Eglwys Gristionogol i ddirywio'n glwb caee%dig.

I Thomas Charles y Beibl oedd y llyfr cyfarwyddyd anhepgor i Gristionogion.