Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anhygoel

anhygoel

'Mae 'da chi awr fan hyn,' meddai un o'r meindars, cyn gwneud y cyhoeddiad anhygoel: 'Chewch chi ddim mynd i mewn i Iraq.' Sut ddiawl fedren ni ffilmio'r Kurdiaid, felly?

Angharad wedi dod, ac mae hi yn rhan o Cymdogion arbennig hefyd, ar draws yr Ynys, pawb bron yn 'nabod ei gilydd, anhygoel, a phawb yn gytun, a'r mor a'r mynydd...

Stafell druenus gydag un nodwedd arbennig - ei bod yn anhygoel o lân.

Mae'n anhygoel fod Cyngor wedi ei arwain gan Sosialwyr yn cwyno ein bod yn gwrthwynebu rheolaeth Quangos Torïaidd ar ein system addysg, ac yn defnyddio hwn yn esgus i beidio â thrafod argymhellion y mae sir gyfagos Ceredigion yn eu hystyried yn ddigon pwysig i'w hastudio'n fanwl gan is-bwyllgor arbennig.

Sylwais fod cystadleuaeth ymhlith labeli yn anhygoel o gignoeth yn ôl safonau Prydeinig.

Gorsaf y rheilffordd yn anhygoel, hyd yn oed ar ol gweld ffilm 'Ghandi' - yn orlawn mewn modd na ellir ei ddychmygu heb ei weld, yn swnllyd, yn fyglyd, nid yn unig gan stem ond gan fwg y gwahanol stondinau sy'n coginio ar y platfform.

Bu'n gyfres anhygoel i Singh.

Meddai Gill Brown, cyn athrawes gelf a chrefft sydd bellach yn Reolwr Datblygu Sgiliau Personol a Chymdeithasol yr Antur, 'mae hyn wedi rhoi hyder anhygoel iddyn nhw.' Mae'r siop yn ddeniadol, a'r silffoedd yn llawn o nwyddau amrywiol.

Mae Awstralia'n parhau i ymestyn eu record anhygoel.

Fe wedodd Stephen wrtha i wedi'r gêm ma'r potio pell oedd wedi gwneud hi i fi ddoe - oedd e'n anhygoel, medde fe.

Ar bnawn o heulwen tanbaid ym mis Mai eniUodd Cymru, bron yn anhygoel, o bedair gôl i un.

Onid yw'n anhygoel fel yr ysguba'r dyddiau heibio?

Roedd Planet Max hefyd yn llwyddiant anhygoel gyda'r diddanwr bytholwyrdd yn profi nad yw amser yn pylu sglein.

Suddodd Miguel Angel Martin ergyd anhygoel o ddeugain troedfedd ar y lawnt ola i fynd a'r gêm i dyllau ychwanegol yn erbyn David Frost.

Yn cael babi hefyd y mae'r anhygoel Madonna.

Cyfieithiad i'r Saesneg o stori hwyliog i blant am daith gwrach drwy Gymru gyda'i pheiriant tywydd anhygoel.

Yn sicr, mae'n brofiad anhygoel ac yn gyfle i feithrin talent newydd.

Hyd yn ddiweddar iawn, doedd gwneuthurwyr carafanau ddim yn credu mewn olwynion sbar am ryw reswm anhygoel.

Yn seremoni wobrwyo Roc a Phop Radio Cymru 2000, enillodd Geraint Jarman wobr unigryw am gyfraniad oes i'r byd cerddorol yng Nghymru, a nawr mae S4C ar fin darlledu rhaglen arbennig i nodi ei gyfraniad anhygoel.

Teimla'r Gymdeithas ei bod yn bwysig mynd a'r Wyl i fannau fel hyn, lle y cafwyd brwdfrydedd lleol anhygoel a chydweithrediad perffaith y pwyllgorau lleol a'u swyddogion i gynnal g^wyl oedd gyfuwch ei safon a'r un a gynhaliwyd.

Gwyddom fwy am gysawdau'r gofod ac am fanion anhygoel fychan y cread nag a wybu unrhyw genhedlaeth o'n blaen.

Mae'r wyrth yn parhau, ac er na wyddom y cyfan am yr ysfa a'r gallu anhygoel i fudo, mae yn ein gwefreiddio pob Gwanwyn.

(Yn wir, ceisiwyd cyflawni'r un gamp yn ystod gwers symiau ar fore Llun ambell dro!) Clywsom am ei gampau anhygoel yn nofio afonydd, yn dal llama ac yn marchogaeth merlod y paith.

Darganfuwyd fod y broses hon o hollti'r atom yn cynhyrchu ac yn rhyddhau ffrwd anhygoel o ynni, a dyma'r egwyddor sydd y tu ôl i'r bom atomig.

Doedd yna ddim lot o ddŵr, doedd y garthffosiaeth ddim yn gweithio'n iawn ond mi roedd yna falchder anhygoel gan y bobl yn eu dinas ac yn eu gwlad.

Yna digwyddodd peth anhygoel.

Yr oedd yn gadael y gweddill ohonom ymhell ar ôl gan fod ganddi egni a nerth anhygoel.

A dydi hi ddim yn gofyn am frên anhygoel i sylweddoli pam.

Mae'n anhygoel i rywun o'r tu allan weld y difrod aruthrol a chlywed y difrod yn digwydd - y gynnau a'r bomiau a'r shells.

Er fod yna nifer o gamgymeriadau blêr fyddain gwylltio puryddion (ers pryd mar Gorkys yn dod o Ogledd Cymru?!), ar y cyfan maen gofnod difyr, manwl a hawdd ei ddarllen nid yn unig o ddatblygiad anhygoel cwlt Cerys, ond hefyd o'r chwyldro cerddorol gymerodd blynyddoedd i'w lunio.

Llongyfarchiadau mawr i bawb â anrhydeddwyd - ac o edrych ar yr enillwyr mae'n amlwg fod yna gyfoeth anhygoel yn y byd roc a phop yng Nghymru.

dyn gyda grym a dylanwad anhygoel, a oedd yn gyfrifol am drafod arian ar raddfa oedd tu hwnt i'w dychymyg hi ac yn cynnig croeso iddo mewn lle nad oedd fawr gwell na chwt di-lun, mewn ystafell llawn o lanast.

Teimlai nerth anhygoel yn llifo i'w freichiau a'i ddwylo.

Y mae yr amrywiaeth o ffyn sydd ganddo yn anhygoel.

Ychwanegodd iddo gael ei syfrdanu gan yr ymateb i hysbyseb a roddodd mewn papur lleol a'i fod yn hapus iawn gyda faint ddaeth i'r cyfarfod cyntaf yn Ionawr a'r ymateb anhygoel a gafwyd ar gyfer noson Gwyl Dewi.

Yn anhygoel, mae'n gwenu arnaf.

Fe wyddom fod yr atomau mewn grisialau cywrain fel diemwnt wedi eu lleoli mewn trefn anhygoel bron ac fe wyddom hefyd fod priodweddau'r solid yn dibynnu ar natur yr atomau, eu lleoliad a'r modd y cysylltir hwy a'i gilydd.

Yn ystod y ganrif hon bu cynnydd anhygoel yng ngwybodaeth dyn, er enghraifft mewn gwyddoniaeth a thechnoleg.

Fedrwn ni ond diolch i griw label RASP am ryddhau Pedair Stori Fer gan gefnogi grwp ifanc arall yn y broses, a hynny yn dilyn llwyddiant EPs gan Yr Anhygoel, Cacamwci a llawer mwy.

Ond mae'r llyfr yn rhoi darlun o grwp sydd wedi bod o dan straen aruthrol ac wedi gorfod gweithion anhygoel o galed am flynyddoedd cyn derbyn clod.

Er enghraifft, roedd An Evening with Max Boyce, gan Presentable Productions, yn llwyddiant ysgubol gan ddenu cynulleidfa o 550,000, a chyfran anhygoel o 65 y cant.

Rhan o gyffro anhygoel oes Fictoria oedd agor ffenestri ar fydoedd newydd, ac ni ellir deall cymhellion y rhai a ymfudodd i bellafoedd byd heb gofio'r bwrlwm syniadau a oedd yn rhan hanfodol o hanes gwledydd Ewrop ym mhedwardegau'r ganrif ddiwethaf.

Roedd y lliw yn anhygoel a'r sūn yn fyddarol.

Weithiau fel yn Reykjavik fe ddaw si o'r cyfarfodydd fod bargen anhygoel ar fin ei tharo, sef y byddai'r ddwy wlad yn cytuno i gael gwared ar arfau niwclear o bob lliw a llun o fewn deng mlynedd.

Mae'n anhygoel fod dyn yn medru crwydro fel hyn i oes arall heb i neb wybod ei fod yno...

Cyfnodau o brysurdeb anhygoel, gyda chyfnodau hirfaith o segurdod yn britho'r cyfan.

Heb feddwl eilwaith rwyt yn gweiddi: "Teimlaf yn gryf fel llew." "O anhygoel, anghredadwy o wir, gwir, gwir pob gair." Mae Eilir wedi gwirioni ar dy linell.

Doedd Mam ddim wedi rhoi cynnig ar yr un o'r triciau yma ers blynyddoedd lawer, ond fel ei hacen Saesneg anhygoel o posh, doedd wybod pryd y gallen nhw fod yn ddefnyddiol.

Mae'n anhygoel meddwl bod wyth charabang wedi mynd o'r Capel Mawr a bod top y dref yn llawn o fwsiau - a hynny i'r Capel Mawr yn unig.

Roedd y ffigurau yn anhygoel ac y mae cyfle nawr i Croft ennill ei le nôl yn nhîm Lloegr, nid yn unig yn y gemau un-dydd ond hefyd yn y gemau prawf.

Mae'r tebygrwydd yn anhygoel, - y lliw browngoch patrymog, y teimlad melfedaidd, y blew bychain a'r arogl arbennig.

Wrth deithio trwy Lanfair-pwll, a cheisio darllen enw llawn anhygoel y pentref hwn, clywir llais yn rhuo yn y pellter.

Mae gan y grwp ddawn anhygoel, ac ‘rydw i'n parhau i synnu at y ddawn arbennig honno, sef eu gallu parhaol i gyfansoddi nifer fawr o ganeuon byr, bachog a syml.

Pedair awr yn ddiweddarach mae'r ysbryd yn well gyda brwdfrydedd anhygoel Cura wedi cyffwrdd pawb.

Ar y pryd rhyfeddais at y ddyfais anhygoel ond erbyn hyn ni chredaf fod JH (a dyna fyddai pawb yn ei alw) yn bencampwr ar ei thrin oherwydd ymddangosai'r lluniau â'u hwyneb i waered yn lled aml.

Stori anhygoel drofaus yw stori'r meddwl Cymreig modern.) Byddai fy mam yn arfer dweud wrth ddatod clymau mwy cymhleth na'i gilydd fod 'cryn waith mysgu arnyn nhw'.

Dangosodd y llwyddiant ym maes rhaglenni dogfen ffeithiol y cysylltiad rhwng rhaglenni rhwydwaith a'r rhai a gomisiynwyd yng Nghymru i Gymru; rhaglenni megis The Man Who Jumped to Earth - stori anhygoel Eric Jones o Dremadog ac yntau'n 61 mlwydd oed a chanddo'r freuddwyd o neidio oddi ar Raeadrau Angel yn Venezuela sy'n 3,212tr o uchder.

'Gem anhygoel,' oedd sylw un o gefnogwyr brwd Lerpwl, Rhian Price ar y Post Cyntaf y bore yma.

'Roedd y peth yn anhygoel imi.

O dan bentyrrau o rwbel a chwyn nid nepell o Landeilo roedd cyfrinachau anhygoel yn cuddio: twnnel ywen hynafol, gardd bwll, gardd glwysty fendigedig a gardd furiog syn cael ei gosod gan y dylunydd garddio byd enwog Penelope Hobhouse.

Mae doniau anhygoel da nhw.

Gallai fod yn anhygoel o hael a'r funud nesaf yn sbeitlyd reit.

Negyddu'r ffaith hon a dilyn dull 'phrase-book' y ganrif ddiwethaf, a'i holl flerwch anhygoel, yw'r camgymeriad mwyaf a wnaethpwyd mewn datblygiadau diweddar wrth ddysgu ail iaith.

Dwi 'di gweld cymaint o anifeiliaid anhygoel.

Nid darparu ystod anhygoel o eang o nwyddau yn unig a wnaent ond gweithredu fel bancwyr di-dal a chynghorywr parod i wrando.

Newydd da, bois bach, mae Wili, Billy, Jim a John - yr anhygoel Bois Bach o ardal Crymych, yn dychwelyd i stiwdio Fflach er mwyn recordio CD newydd ar gyfer y Nadolig.

Roedd hi'n anhygoel canfod fod Siwsan Pwllheli ar y kibbutz yn gweld y byd trwy lygaid Cymreig ac Iddewig tra bod Siwsan Porthmadog ym Methlehem yn gweld y byd trwy lygaid Cymreig ac Arabaidd.

Golygfa anhygoel.

Pan cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith ddogfen am ddyfodol addysg Gymraeg ac addysg gymunedol y Sir i'r Pwyllgor Addysg, taflwyd yr argymhellion allan heb drafodaeth, ar y sail eu bod yn 'rhy wleidyddol'. Mae'r penderfyniad anhygoel yma yn ei gwneud hi'n amlwg bod polisi'r Blaid Lafur tuag at Quangos yn hollol anhrefnus ac aneglur, os oes un yn bodoli o gwbl.

Prin y gallai dim byd fod yn fwy ysgeler na gwrthod graslonrwydd anhygoel Duw.

Anhygoel, meddai'r gyrrwr doedd o ddim yn gallu cofio'r gloch yn canu erioed o'r blaen.

HOGIA' ANHYGOEL!: Mae'n siwr eich bod yn cofio darllen yn rhifyn mis Mai o'r Llais am y ddau ŵr ifanc golygus y gwelir eu lluniau uchod.

Roedd hi'n noson anhygoel yng Nghwpan FA Lloegr neithiwr.