Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anhysbys

anhysbys

Mae cemegwyr yn defnyddio papur wedi'i drin yn arbennig o'r enw papur litmws pan fyddant yn profi hylifau anhysbys i weld ai asid neu alcali ydynt.

Cyfuno deunydd a fenthycwyd o'r Brut ac o ramant Ffrangeg, y Merkn en Prose (rhan o Gylch y Fwlgat) a wnaeth awdur anhysbys y testun a adwaenir heddiw fel 'Genedigaeth Arthur', er enghraifft, ac a gadwyd yn llsgr.

Erbyn i Emyr Afan ymddangos gyda Tom, Kelly, Stuart a Cerys datgelir mai Larry Adler yw'r henwr anhysbys.

Bydd peilotiaid Americanaidd bob amser yn croesi gwregysau diogelwch ar seddau gwag yn yr awyren er mwyn plesio'r ysbrydion anhysbys.

Daeth tro mawr ar fyd Derek wedi iddo etifeddu swm sylweddol o arian ar ôl ei dad anhysbys.

Mi fyddai'n nosi cyn hir; tir anhysbys oedd llwybr y camelod ac roedd y petrol ar fin cyrraedd pwynt dim dychwelyd Roeddent eisoes wedi treiddio ymhellach i'r anialwch nag y gwnaeth neb mewn modur o'r blaen.

Canent awdlau serch lled faith i dywysogesau a rhai byrrach i ferched anhysbys (ac anghyffwrdd), heblaw dwy 'orhoffedd' sy'n gyfuniad diddorol o ymffrost serch a rhyfel ac o ganu natur.

Mewn sawl ffordd, diwylliant dirgel yw'r diwylliant Cymraeg ac y mae'i ogoniannau yn anhysbys hyd yn oed i'r Cymry hynny nad ydynt yn siarad Cymraeg, fel y gall y Cymry Cymraeg anrhydeddu Cymro enwog na fyddai gan y Saeson sy'n byw yn yr un stryd a hwy mo'r syniad lleiaf pwy ydyw.

Roedd y lluniau'n debycach i 'nhad nag i'r person anhysbys o'm blaen.

Yn ddiweddar mae gwyddonwyr wedi dadansoddi gwreiddiau a dail betys a chael ynddynt rai sylweddau anhysbys ynghyd â ffibr, haearn, caliwm, potasiwm, y fitaminau A, C a nifer o'r cymhlyg B, gyda'r dail yn arbennig o gyfoethog mewn haearn a fitamin A.

Cred rhai mai enw rhyw sant Cymraeg anhysbys ydyw.

Dadleuodd Frank Smith, a sgrifennodd gofiant i Kay-Shuttleworth, fod y gorchymyn i'r Dirprwywyr i ymchwilio i 'foesau'r' Cymry yn dod o ymyrraeth rhywun anhysbys â'r cyfarwyddiadau gwreiddiol yr oedd Kay-Shuttleworth wedi eu paratoi yn ei fraslun.

Rhaid chwilio dyddiaduron a chofrestrau a Beiblau Teulu am enwau anhysbys rhai ohonynt; buont ac aethant, a'u lle nid edwyn ddim ohonynt mwy.

Meddai awdur anhysbys o Ddinas Mawddwy mewn traethawd 'Adgofion Bore Oes', a sgrifennwyd rywdro yn y ganrif ddiwethaf: 'Yr oedd llawer o hen arferion darostyngol a fygent bob teimlad o rinwedd a moesoldeb ac a brofent yn felldith i'r ardaloedd yma.

Rhinwedd y tyddynnwr anhysbys o safbwynt llysieuwr yw na wellodd y tir ac oherwydd hyn mae'r caeau'n frith o flodau gwylltion yn y gwanwyn a'r haf; gwyn y llygad eglur, melyn y gribell felen, coch ysgafn y bengaled a choch tywyll y teim ynghyd â nifer o degeiriannau fel y tegeirian brych Dactylorhiza maculata y tegeirian brych cyffredin D.