Daeth un o'r garfan o hyd i ddalwasg bach mewn cerbyd Eidalaidd a adawyd yn yr anialwch ac, yn ogystal, gydaid o bethau metel amrywiol oedd yn ddirgelwch iddo fe, ond a alluogodd Hadad i wneud sawl jobyn cywrain.
Byddai eu hôl i'w weld am ugain mlynedd o bosibl, ond ni fyddai dwst gwyntoedd yr anialwch yn hir cyn dileu ôl traed y camelod.
Hanes gardd yn troi'n anialwch, breuddwyd yn troi'n hunllef.
Bellach daeth arwyddocâd newydd i'r hen wyl, gyda'r pryder ynglyn â gwenwyno'r afonydd, torri fforestydd, troi tir âr yn anialwch a difa rhywiogaethau cyfain o greaduriaid.
Cemeg yr anialwch.
Penderfyniad cennad y Deyrnas oedd ymwrthod â'r math o Selotiaeth a ymddiriedai yn nulliau grym materol; ond ategir gan yr hanesion am demtiad Iesu yn yr anialwch y dybiaeth iddo gael ei demtio i ennill goruchafiaeth ar y byd trwy ddefnyddio dulliau'r byd ac iddo orchfygu'r demtasiwn.
Dyma wlad o'r fath dlysaf - gwlad wedi bod unwaith, y mae yn amlwg dan driniaeth uchel; palasau a ffermdai mawrion ar bob llaw i mi, ond heb neb yn byw ynddynt - eu ffenestri yn yfflon, y muriau o'u cwmpas wedi syrthio, y perllanau mawrion a'r gerddi yr un ffordd â'r meysydd, a'r meysydd yn anialwch.
O'i flaen, cyn belled ag y gallai weld, ymestynnai anialwch hirfaith, heb fod yno na phren na llwyn nac afon na llyn na diferyn o ddŵr - dim o gwbl ond tywod melyn a chreigiau noeth.
Cyrhaeddodd y ffactor dyngedfennol yn nhemtiad yr anialwch, lle y bu i'w ufudd-dod ddadwneud anufudd-dod Adda.
Sylwer fod y graig Trias yma yn cynnwys darnau mawr o gerrig sy'n profi fod llif mawr o ddþr wedi gwthio'r cerrig yn sydyn ar draws yr anialwch sych i lawr ochr serth math o wadi.
Mewn anialwch yn Arizona UDA mae Parc Cenedlaethol enwog o'r enw y Goedwig Garreg.
Mae rhannau helaeth o anialwch yn UDA yn fannau alcalaidd lle nad oes ond ychydig o blanhigion yn tyfu, a lle na all llawer o anifeiliaid fyw.
Mi fyddai'n nosi cyn hir; tir anhysbys oedd llwybr y camelod ac roedd y petrol ar fin cyrraedd pwynt dim dychwelyd Roeddent eisoes wedi treiddio ymhellach i'r anialwch nag y gwnaeth neb mewn modur o'r blaen.
b) Y syniad offeiriadol am ddiymadferthedd dyn yn wyneb pechod, ac felly'r angen am i Dduw fynd allan i chwilio am y pechadur sydd heb edifarhau, fel yr â'r bugail i'r anialwch i geisio'r un ddafad golledig;
Wedi ffiasco'r anialwch a'r siwtiau haearn, fydda fo ddim yn betio llawer ar y posibilrwydd.
Mae creigiau cochion yn arwydd sicr bod y graig honno wedi ei ffurfio dan amodau anialwch sych oherwydd fod y lliw coch yn dod o'r haearn sydd wedi rhydu yn yr awyrgylch sych.
Mae byddinoedd, er enghraifft, yn edrych yn syndod o debyg i'w gilydd, yn enwedig yn yr anialwch.
I'r anialwch hwn y rowliodd y bêl, a bu'n rhaid i Idris ei dilyn.
"Ond wedi gweld y wlad a'r anialwch 'na i gyd," meddai, "sa i'n siwr mod i'n credu stori'r Moses yna'n croesi'r Môr Coch." Cynghorodd y morwr fi i fynd at 'filder' tir yr ochr arall i'r Castell.
Ar ôl treulio cymaint o amser yn y tywod yn y rownd olaf dywedodd ei fod yn teimlo fel petaen chwaraen yr anialwch! Roedd 73 yn y rownd olaf ddim digon i sicrhau dim gwell na thrydydd safle.
Ac fel sy'n gwbl briodol wrth reswm ar achlysur-on o'r fath, rhyw duedd sy' ynom ni, 'o fryniau Caer-salem' fel 'tai, i edrych yn ôl ar 'daith yr anialwch', ar ei 'throeon' a'i hofna'.
Yn yr anialwch, bydd y llwythau'n dosbarthu eiddo yn ôl angen yr unigolyn, ac mae sosialaeth Gadaffi yn rhoi mwy o bwyslais ar yr unigolyn nag yw'r Marcswyr traddodiadol.
Anialwch sych tebyg i'r Sahara heddiw oedd y rhan yma o'r wlad yn ystod y cyfnod Triasig.
Chwe wy wedi ei ffrio hefo pryfed a dim arall oedd y brecwast gawsom yng nghanol yr anialwch y bore hwnnw.
Dywedodd fod yr ysgol wedi troi anialwch yn dir ffrwythlon y byddai unrhyw ffermwr yn falch ohono.
Ni ddylid gadael i ddynion a merched farw yn yr anialwch, nac i gannoedd o filoedd o ddynion, merched a phlant diniwed gael eu lladd a'u niweidio.
O'r herwydd, er imi weld paratoadau'r milwyr yn anialwch gogledd Saudi - chefais i mo fy nethol i dreulio cyfnod y rhyfel ei hun gydag unrhyw uned.
Pan oeddem ar grwydr fel defaid mewn anialwch, daeth y Bugail Da i'n ceisio.
Ar y sail yma bu H. W. Montefiore yn adeiladu damcaniaeth fod ymgais i godi gwrthryfel yn yr anialwch a gorfodi Iesu i ymgymryd â swyddogaeth meseia milwrol.
Y mae ambell sefydliad yn blodeuo yn yr anialwch, serch hynny, megis tþ bach diddorol yr Hen Lolfa y Nhalybont.
Pobl groesawus yw'r Uzbek ac y mae'r chai, sef y paned te, yn nodwedd syml o'u croeso a'u traddodiad fel teithwyr y steppe a'r anialwch.
Montefiore yn adeiladu damcaniaeth fod ymgais i godi gwrthryfel yn yr anialwch a gorfodi Iesu i ymgymryd â swyddogaeth meseia milwrol.
Mae mynyddoedd yr Hajar yn cadw gormod o'r anialwch o'r fan hon, tra bo'r cwrel yn gwneud yn siwr fod digon o bysgod lliwgar i'w gweld dan donnau'r Indian Ocean.
Cyn clirio rhywle, sydd i ni yn edrych yn anialwch, hwyrach y dylem feddwl ein bod yn dinistrio man sydd i'r pincod 'yn llifeirio o laeth a mêl.'
Anialwch o lwch a chreigiau yw llethrau'r mynydd, heb ddim yn tyfu arnynt na dim yn symud drostynt, ddim hyd yn oed fân greaduriaid ac ymlusgiaid.
Deud wrtho fo am fynd i ganol anialwch tywod y de lle mae'r haul yn boeth a sychad yn cau gyddfau'r nadroedd, mi gâi groeso'n fanno.