Yr oeddwn yn llanc pendew a thwp pan gwrddais â John Gyntaf, ac , i'm tyb i, anwybodaeth anifeilaidd oedd ei nodwedd amlycaf.
Mae'n wir i amryw un, o Saunders Lewis i Hywel Gwynfryn (yn Melltith ar y Nyth), ailgyflwyno'r chwedlau yn y Mabinogi mewn modd sy'n denu chwilfrydedd meddylwyr Freudaidd neu Jungaidd, gyda'u diddordeb yn y wedd rywiol i bethau, a'r amwysedd a'r diffyd rhesymolder sydd yn y chwedlau ym mherthynas pobl neu greaduriaid â'i gilydd, a'r symud sydd rhwng y byd greddfol, anifeilaidd, a byd dynion a'u defodau a'u hawydd i roi trefn ar bethau.
Wrth weld 'y fath olwg ddiafolaidd anifeilaidd' ar ei thad, teimlai Winni fel 'ei lindagu a gwasgu ei gnawd nes byddai yn sitrws fel tatws drwg wedi eu berwi i foch' (Haul a Drycin).