Mae'r ffilm yn cyfuno talentau pedwar cyfarwyddwr animeiddio a phedwar steil neilltuol o animeiddio i ddod â chreadigaethau amrywiol Chaucer yn fyw.
Tynnwyd sylw yn arbennig at y defnydd o sain, lliw ac animeiddio ar safle Ysgol Santes Tudful, ac at fanylder y gwybodaeth cymunedol safle Ysgol Llanrug.
Rydw i felly wrth fy modd fod safle flaenllaw S4C ym maes animeiddio yn cael ei chydnabod unwaith eto gydag enwebiad am Oscar.
Ar ran Right Angle, Golygyddion y Gyfres, dywedodd Penelope Middelboe: "Tair blynedd yn ôocirc;l, pan grybwyllwyd y syniad o animeiddio'r clasur anhygyrch hwn, doedd gan neb ohonom yr un syniad sut i fynd i'r afael â'r gwaith.
Wrth sôocirc;n am yr orchest ddiweddaraf hon i gynnyrch animeiddiedig S4C, dywedodd Cyfarwyddwr Animeiddio'r sianel, Chris Grace, oedd hefyd yn Gynhyrchydd Gweithredol ar y gyfres, "Mae'r gamp o ennill yr Emmys hyn yn rhoi boddhad dwbl, gan eu bod nhw'n cydnabod y dalent sydd yng Nghymru a swyddogaeth alluogi S4C yn dod â'r cyd-gynhyrchiad gwirioneddol ryngwladol ac arloesol hwn at ei gilydd.
Dyfernir y gwobrau am Lwyddiant Unigol mewn Animeiddio gan banel o feirniaid o blith Animeiddwyr o fri o fewn yr Academi Celfyddydau a Gwyddorau Teledu (sy'n cynnal y seremoni Primetime Emmys bob blwyddyn).