Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anllad

anllad

Fe gofir bod y mynach anllad yn gymeriad cyfarwydd mewn llenyddiaeth fasweddus trwy'r oesoedd.

Gwelwyd yn fuan bod y rhai a oedd yn defnyddio cyffuriau mewn modd anghyfreithlon, gan rannu offer chwistrellu, yn fwy tebygol o ddioddef; hefyd y rhai, o blith y ddau ryw, a oedd yn anllad ac yn mwynhau rhyw gyda nifer o bartneriaid o'r naill ryw neu'r llall.

mai'r mynach da oedd yr unig ellyll, yr hwn oedd wedi teimlo rywbeth mwy na serch ysbrydol am ferch brydweddol meistr y tŷ; ac wedi chwareu y gamp uffernol hon i foddloni ei nwydau anllad.

Deddfir "Na byddo iddynt bri%odi un digred, na dilyn erferion anllad llygredig y byd yn eu rhag-gyfeillach, ac yn eu mynediad i'r 'stad briodasol".

Ymddengys ar yr olwg gyntaf fod y Parchedig Owen Jones, un o bileri'r achos Methodistaidd, wedi cynnwys yr hanes yn 'Y Mynach Anllad' yn ei gasgliad diddorol Ceinion Llenyddiaeth Gymraeg fel traethiad gwrthbabyddol.

Ond yr ydych etto yn dilyn y cnawd, yn canu carolau i gyffroi eich chwantau, yn darllen llyfrau bydron anllad, ac yn gwenwyno y gwreiddyn pur, yn dilyn tafarnau, a thablerau, a llwon...yn dibrisio'r tlawd, yn byw yn hoyw, yn nhommen masweidd-dra, yn gwatwar sobrwydd...yngwely'r buttain, mewn gwleddau a glothineb, mewn meddwdod, a chwerthin, mewn cydorwedd a chywilydd...Deffro, Cyfod.