Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anlwcus

anlwcus

Cred arall yw fod ci yn cerdded ar draws y maes yn beth anlwcus iawn i'r ochr sy'n batio ar y pryd ac na fyddant yn ennill y gêm.

Cyn dyddiau'r teledu, roedd y gyrrwr hefyd yn credu ei bod yn anlwcus cael tynnu ei lun neu arwyddo llyfr llofnod cyn i ras ddechrau.

(Tarddodd y goel hon mae'n debyg yn y Dwyrain lle defnyddid ambare/ l a pharasôl gan frenhinoedd a breninesau.) Gall gweinyddesau mewn ysbyty dystio ymhellach pa mor gryf heddiw yw'r gred gan lawer iawn o bobl na ddylid cymysgu blodau coch a gwyn - mae'n arbennig o anlwcus.

Credir ei bod yn anlwcus gweld het ar sedd cyn gornest.

Yn ôl pob sôn, coeden anlwcus yw'r ddraenen.

Un cysur sydd gan y gamblwr anlwcus yw'r gred fod y sawl sy'n cael anlwc efo'r cardiau yn cael lwc mewn cariad!

Bu Marcus Trescothick yn rhyfedd o anlwcus.

Bydd gollwng cardiau, yn enwedig rhai duon, yn ystod gêm yn anlwcus iawn ac wrth gwrs mae'n draddodiad i gysylltu cardiau duon, yn enwedig rhawiau, gyda

Credant ei fod yn beth anlwcus iawn i fynd â blodau ar awyren, yn enwedig rhai coch a gwyn.

Ond efallai iddo fod yn anlwcus oherwydd ei enw, Go-dam, ac mai dyna sut yr aeth ar goll yng ngwlad yr Addewid!

Gall rhif cerbyd fod yn lwcus neu anlwcus hefyd.

Mae'n anlwcus iawn dod at y 'tee' o'r tu blaen, rhaid peidio newid y ffon unwaith byddwch wedi ei dewis a pheidiwch â glanhau'r bêl yn ystod gêm os ydych ar y blaen.

Ni ddylai merch gyffwrdd ysgwydd dyn wrth iddo eistedd i lawr i chwarae, yn wir mae'n arwydd o anlwc os digwydd iddo gyfarfod â merch ar y ffordd i'r casino - anlwcus i bawb ond James Bond!

Dyna enghreifftiau yn yr oes 'oleuedig' hon o rai pethau na ddylem eu gwneud oherwydd eu bod, meddir, yn anlwcus, er nad ydym yn rhyw siwr iawn pam.

Yn naturiol mae'n beth anlwcus iawn i dorri ywen neu i losgi'r pren.

Bu Jones yn hynod anlwcus ar ddechrau'r ail hanner, ei ergyd yn cael ei phenio oddi ar y llinell.

Mae wedi bod yn gred gyffredinol ers rhai blynyddoedd fodd bynnag fod tanio tair sigare/ t gyda'r un fatsen yn anlwcus iawn.

Roedden nhw'n well tîm yn erbyn Portiwgal ac yn anlwcus iawn yn erbyn Yr Almaen.

I'n cyndadau, fodd bynnag, roedd gosod esgid ar fwrdd yn anlwcus oherwydd fod y weithred yn eu hatgoffa o esgidiau am draed y truan oedd yn aros i'w grogi.

Roedd on anlwcus i weld ei ergyd on mynd heibior postyn yn y munudau agoriadol.

Bydd gwisgo esgidiau newydd mewn gornest bwysig yn anlwcus iawn a rhaid poeri yn y menyg cyn cychwyn ymladd.

Mae'n anlwcus chwarae cardiau mewn stafell os bydd ci yno ac ni ddylid chwarae cardiau ar fwrdd sydd â'i wyneb yn loyw.

Peth anlwcus hefyd yw gadael i'r 'chips' orwedd blith drafflith ar fwrdd.

Mae hefyd yn anlwcus i godi'r cardiau o'r bwrdd cyn iddynt gael eu rhannu allan i gyd.

'Dros y pedair gêm ddwetha ni wedi bod ychydig bach yn anlwcus.

Rwyt ti wedi bod yn anlwcus i gael criw mor annifyr, oherwydd maen nhw'n gallu bod yn ddigon caredig.

Bydd gweld gwraig â llygaid croes yn y dorf cyn dechrau'r gêm yn anlwcus iawn ac ni fydd y chwaraewr hwnnw yn llwyddo i daro'r bêl unwaith y diwrnod hwnnw!

Peth anlwcus arall yw dymuno'n dda i geffyl neu joci cyn dechrau ras.

Wnaiff cyffwrdd â phren marw, fel bwrdd neu ddrws mo'r tro gan fod hynny yn anlwcus iawn - y marw at y marw megis, a'r byw er mwyn byw.

Yr oedd Steve Watkin yn anlwcus dros ben i fethu cipio wiced Ryan Driver yn ystod batiad yr ymwelwyr.

Roedd o'n anlwcus i weld ei ergyd o'n mynd heibio'r postyn yn y munudau agoriadol.

Roedd gweld cefn y fan yn unig yn anlwcus ond fod gweld blaen y cerbyd gyntaf yn lwcus.

Oherwydd ei ffurf cysylltid ambare/ l a pharasôl â'r haul, a daethpwyd i gredu ei bod yn anlwcus i'w hagor yn unman ond ym mhresenoldeb yr haul, hynny yw, y tu allan i'r ty ac nid y tu mewn.

Ni ddylech ddechrau gêm am un o'r gloch gan mai dyma drydedd awr ar ddeg y dydd ac felly yn anlwcus.

Weles i 'rioed mor anlwcus fuoch chi.

Unwaith eto hefyd gwelwn y gred fod merched yn gallu bod yn anlwcus.

Mae'n gred bendant ymhlith modurwyr fod ambell gar yn un anlwcus, yn enwedig os yw wedi cael ei wneud ar ddydd Gwener.

'O'n i'n anlwcus yn y diwedd.

Credid mai ar y goeden hon y crogodd Jiwdas Iscariot ei hun ac fe'i hystyrid yn goeden anlwcus iawn.

Mae'n anlwcus felly i unrhyw chwaraewr roi menthyg ei fat i un arall gan ei fod yn rhoi iddo hefyd y cyfle i sgorio ar draul ei lwyddiant ef ei hun.

Dyna, er enghraifft, y goel gyffredin ei bod yn anlwcus i gerdded dan ysgol.

Maent yn credu ei bod yn anlwcus mynd i fewn i'r car ar yr ochr lle mae'r bibell fwg, os mai dim ond un sydd ar y car.

Mae'n anlwcus iawn i fetio ar geffyl sydd wedi newid ei enw.

`Ie, wmbreth,' ebe Ernest, ` 'dydw i ddim yn cofio cael mwy o sbort erioed wrth hela, a phiti garw, Harri, i chi fod mor anlwcus.