Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anna

anna

Sylwodd Anna fod rhyw foi mewn côt ddyffl lwyd ar fwrdd Playmate.

ANNA BRYCHAN sy'n olrhain ei yrfa a'i syniadau.

Roedd hi'n amlwg ei fod yn swil iawn a phrin y codai ei lygaid i edrych ar Anna.

Dywedodd Anna y byddai'n ystyried pob posibilrwydd.

Pwysodd Cathy ar Anna i ddod i weld y cwch ar dreialon neu hyd yn oed ar y ras fawr gyntaf i Iwerddon.

Roedd Cathy yn fyrlymus ei chroeso gan fod ei thad wedi sôn wrthi am yr erthygl ac am ei wahoddiad i Anna ddod i weld y cwch.

Yn gynnar y prynhawn hwnnw roedd Anna Cartwright yn crwydro ar hyd y marina i gyfeiriad y cwch mawr porffor.

Byddai'n syniad i Anna ddod ar hwnnw a pharatoi erthygl ar y ganolfan.

Gwyddai Anna nad oedd William yn ei hoffi a gallai deimlo tyndra rhyngddynt.

Gwahanol iawn oedd crud-doli costus Anna.

Cofiodd Anna am brotest Cymdeithas yr Iaith.

Aeth saeth o ddigalondid drwy galon Anna am funud.

Sylwodd Anna fod William wedi cochi'n ofnadwy, nes bod y plorynnod ar ei dalcen yn wyn ar wyneb y croen.

Dau athro yw'r gwr a'r wraig sy'n rhoi cartref oddi cartref imi yma yn Mati Zeugly: Dimitris Koutroubas ac Anna J.

Cafwyd cyd-chwarae arbennig rhwng Phil Reid (Meic) a Bethan Dwyfor (Anna) yn y rhan yma.

Ni allai Anna lai na gwrando ar eu sgwrs uchel.

Dangosodd Cathyr yr holl offer soffistigedig oedd ar y dec i Anna, yn glociau mawr cyflymder, cwmpawdau electronig a'r offer hunan-lywio, y cyfan yn sgleinio fel sylltau.

Mor dda hefyd y cofiai ei chyfnither, Anna Maria, merch ei Hewyrth Joseph y ddwy ohonynt ar lawnt fechan Trefeca Isaf yn gorwedd ar eu cefnau i weld y sêr a'r lleuad trwy delesgop rhyfeddol ei hewyrth, wedi eu swyno gan ddirgelwch peiriant a fedrai dynnu'r sêr a'r nef ei hun mor agos atynt.

Gallai Anna weld bod ei holl ynni a'i sylw yn y gwaith.

Maen debyg mai Mark Roberts yw stricar prysuraf Prydain a redodd ar draws cwrt 14 yn Wimbledon eleni gan beri i Anna Kournikova guddio ei phen yn ei thywel.

Doedd dim cartref i ddraig goch fach, hyd yn oed, yn nhan trydan Anna a Marc.

Enillodd Martina Hingis a cholli wnaeth Anna Kournikova.

Cyn-wr Anna a chyn-wr Rachel.

Mynega Anna broffwydes ei llawenydd 'wrth y rhai oll a oedd yn disgwyl ymwared yn Jerwsalem'.

Fe gododd rai ohonynt o glawdd hen furddun ar ei ffordd 'nôl o dŷ Nanti Anna y llynedd.

Ar ddiwedd y newyddion y cyrhaeddodd Anna Cartwright fuarth Maes Môr.

Yng nghystadleuaeth y merched profodd Anna Kournikova yn rhy gryf i Sandrine Testud o Ffrainc.

Anna-Marie Robinson yn holi tybed oes yna ormod o anifeiliaid fferm ar gyfer plant bach...

Yn yr act gyntaf, cawsom gipolwg sydyn ar bersonoliaeth a bywyd bregus ac ansicr Anna wrth iddi lowcio'r gin a galw ei chwaer yn bopeth o "bitch" i'r "hen ast".

Fuodd Anna fawr o dro yn tynnu sgwrs efo hi.

Ymdonnai gwallt Anna, hithau, yn dusw o wenith melyn ar y duwch.

Tybiodd Anna y byddai William yn siwr o wybod ble'r oedd Maes Môr.

Gwnaeth Anna nodiadau cyflym yn ei phen ac yn fuan, trwy hynawsedd agored Cathy, roedd yn gwybod cyflymder y cwch, lleoliad popeth o bwys a hyd yn oed pwy fyddai'n arfer criwio i'w thad.

Roedd Henry ac Anna fach wedi bod wrth eu bodd yn cael mynd ar draws yr afon lydan yn y cwch.

Dyna ddull rhai fel Lindsay Davenport ac Anna Kournikova beth bynnag.