Roedd y Wraig wedi bod yn defnyddio'r dŵr poeth trwy'r dydd gan nad oedd dim o'r llall ar ga'l ac fel yr oedd Ifor ar roi ei fawd ar gliciad y drws clywodd y glec fwya annaearol a glywodd erioed!
Fe berthyn i'r gwladwr pur y ddawn annaearol i fod yn yr union le pan fydd pobl ddieithr yn cyrraedd, ac 'roedd Elis Robaitsh, Tŷ Cam, wedi ei fendithio'n helaeth â'r ddawn hon.
Cyn gynted ag y cyffyrddodd Sandra'r blanced, fe gododd honno ohoni'i hun, a daeth rhyw sgrech fyddarol, annaearol o rywle.
Y mae distawrwydd y carchar yn debyg i ddistawrwydd mynwent ar ganol nos, y distawrwydd ofnus annaearol hwnnw y gellwch wrando arno a'i glywed; y distawrwydd dirgel, dyrys sydd yn eich amgylchu ac yn araf y eich gorthrechu; yn myned drwy dyllau'r croen i'r corff, yn cerdded drwy'r gwaed i'r galon ac i'r ymennydd.