Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

annelwig

annelwig

Cymeriad annelwig yw Sant Ffolant: efallai mai Esgob Terni ydoedd neu offeiriad o Rufain a ferthyrwyd yn y drydedd ganrif OC Nid yw'r cysylltiad rhwng Sant Ffolant a chariadon yn un arbennig o ramantaidd.

Dod i adnabod person arall pan oedd yr adnabod mor bwysig; ymhyfrydu ymhob darganfyddiad bach a ychwanegai'r gronyn lleia o ddiffiniad ar ddirgelwch annelwig cymeriad.

Annelwig yw diweddglo...

I mi roedd cynefin y llwyth rywle y tu hwnt i Groesffordd Llangeler, ond digon annelwig a phrin oedd fy ngwybodaeth am fro fy mabandod a'm hadnabyddiaeth o'm perthnasau a'm gwreiddiau.

Dyma wybodaeth y gellir o leiaf ei defnyddio i lenwi'r bylchau yn ei hanes cynnar - hanes sydd, fel y gwelsom, braidd yn annelwig.

Cafodd y math o ateb annelwig y byddai rhywun yn ei ddisgwyl - y rhoddir ystyriaethau i adnoddau cynhenid cyfoethog Cymru fel pren a llechen ond bod yn ofynnol, wrth gwrs, sicrhau fod y gwariant yn rhesymol ac ati.

Mae eneideg o'r fath o reidrwydd yn annelwig.

Yn Nhrigle'r Cymylau, y carwn innau ryw ddiwrnod ddychwelyd i'w llwybrau cynefin ddieithr, mae'r duwiau oll yn ymgordeddu fel nadredd ansylweddol ac annelwig yn y glaw a'r niwl.

Tynnodd David lun Eluned a minnau yn dal y troffi yn y man a'r lle â'i fflach-gamera, er na luyddodd ond i dynnu arlliw o ddwy ddrychiolaeth annelwig, heb sôn am hynodbeth y ddwy gaib.

Un o'n hanawsterau ni ers blynyddoedd yw bod y ffin wedi mynd yn annelwig.