Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

annheg

annheg

Mae elfennau crefyddol a gwleidyddol yn ei gwaith ond annheg fuasai gosod unrhyw label felly arni.

Fe ddylen nhw, o bawb, wybod pa mor ofnadwy o annheg yw hi i ymweld ag anwiredd plant ar eu tadau.

Cytunodd cadeirydd y tribiwnlys y dylai gwrandawiad llawn gael ei gynnal i honiadau bod y fyddin yn gwahaniaethu'n annheg ar sail hil.

Mae'n annheg, yn eu barn hwy, fod gan y Prydeinwyr bedwar cyfle - a ninnau, fel hwythau, yn un cyfundrefn wleidyddol.

Rhoddodd yr argraff - yn annheg efallai - fod un o weinidogion tramor gwledydd Prydain mor anymwybodol o sefyllfa'r bobl hyn ag yr oedd Marie Antoinette pan awgrymodd y dylai trigolion di-fara Paris fwyta cacennau.

Bu cryn ddadlau, a gwrthwynebu ar Morris-Jones, a hynny nid bob tro yn annheg.

Yn y cyfamser annheg yw iddynt feirniadu etifeddion y traddodiad gwledig sy'n gwneud eu dyletswydd [trwy ganu o fewn eu profiad a'u traddodiad am beidio â gwneuthur dyletswydd pobl eraill hefyd.

Nid yw'n annheg dadlau fod y ddisgyblaeth hon wedi crisialu'n ddiweddarach yn barchusrwydd ffurfiol a phobl yn canmol y gwerthoedd yn gyhoeddus ac yn eu gwadu yn y dirgel.

O ganlyniad, y mae eu beirniadaeth ar yr eglwysi'n aml iawn yn blentynaidd a thwp - heb sôn am fod yn greulon o annheg.

Ond braidd yn annheg fyddai hynny.

Dau beth oedd yn cael sylw papurau a theledur wlad - y digwyddiad hwn a pha mor amhosib o annheg oedd maes golff Carnoustie i chwarae arno.

Annheg, efallai, yw eu cymharu ag arddull y Divine Comedy ond y mae yna debygrwydd yn y math o swn sy'n cael ei gynhyrchu.

Ni fynnwn fod yn annheg o ysgubol.

Ond annheg â'r gwylwyr ar ddyddiau felly yw dewis un pwnc a chwyddo'i bwysigrwydd allan o bob rheswm.

Dros y canrifoedd mae dynoliaeth wedi bod yn ddidrugaredd o annheg ato.

'Maen nhw wedi cael nifer o anafiadau a mae wedi bod yn annheg i John Hollins - dydy o ddim wedi medru dewis ei dîm gora bob wythnos.

A thymer y gweinidog wedi mynd yn fyrrach a byrrach, a'r parting shot, (annheg rwy'n gwybod).

Pan y'i gorfodwyd i gymryd rhan mewn ymladdfa annheg o unochrog rhoddodd gymorth ysbrydol i wr o'r enw Nestor ac oherwydd ei ffydd bu'n fuddugol er mor anghyfartal y gystadleuaeth yn eu herbyn.

Annheg fyddai creu'r argraff mai un sylweddoliad unwaith ac am byth oedd hwn, eithr o hynny ymlaen gwnaeth Peate brofiad yn gynsail ei farddoniaeth a'i grefydd fel ei gilydd.